Skip to main content

Parth y Gad

 

Parc Gwledig Cwm Dâr, Trecynon, Aberdâr CF44 7RG

Mae Parth y Gad (‘Combat Zone Live’) yn llawn hwyl a gwerth am eich arian. Dyma'r maes y gad mwyaf realistig sydd ar gael y tu allan i'r lluoedd arfog. Yn ôl cyn-filwyr, mae'r profiad yn debyg i'r hyfforddiant ar gyfer ymladd mewn ardaloedd trefol (hyfforddiant ‘FIBUA’).

Mae Parth y Gad yn dod â gemau cyfrifiadurol neu ffilmiau yn fyw. Byddwch chi'n cael eich cyfarwyddo ar faes y gad ynglŷn â sut i ddefnyddio'r gynnau chwarae ac amcanion eich tîm. Dyma brofiad bythgofiadwy. Mae'n ddelfrydol ar gyfer partïon pen-blwydd, partïon cyn priodi, achlysuron adeiladu tîm neu dewch draw i chwarae ar fyr rybudd.

Dydy ein arfau ni ddim yn saethu – maen nhw'n defnyddio golau is-goch (fel sy'n cael ei ddefnyddio gan y lluoedd arfog). Mae'r golau is-goch yn bwrw synwyryddion ar y tîm arall.

Does dim costau ychwanegol ar gyfer arfau.