Mae Mountain View Ranch yn cymryd pob un o holl elfennau gorau canolfan antur, a'u dodi yng nghanol rhai o'r golygfeydd harddaf sydd i'w gweld yn Ne Cymru.
P'un yw'ch diléit chi? Trecio Segway drwy'r goedwig? Ceisio cadw'ch cydbwysedd ar ein rhaffau uchel? Hedfan drwy'r awyr ar ein gwifrau gwibio? Dyma'r lle gorau oll i fwynhau'r bryniau tonnog a'r golygfeydd godidog a thrawiadol.
Rydyn ni i gyd yn blant, yn y bôn, felly, roedden ni eisiau cynnig rhywbeth eithaf arbennig i blant. Dewch i'n lle chwarae antur i roi cynnig ar y llithrennau ochr bryn, siglenni anferth, pebyll, fframiau dringo, tai chwarae a gwifrau gwibio. Mae yma bopeth i gadw'ch plant o ddwy flwydd oed i 12 oed yn ddiddig!