Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Wales Activity Breaks

 

Fferm Cwrt y Celyn, Glan-bad, Pontypridd CF37 5BJ

Rydyn ni ychydig yn unigryw! Mae gennym ni ein canolfan gweithgareddau ein hunain, ddim yn bell o Gaerdydd. Mae'r ganolfan yn darparu gweithgareddau beicio cwad, saethu colomennod clai, saethyddiaeth, saethu â laser a cherdded ceunentydd. Rydyn ni hefyd yn trefnu diwrnodau allan a gweithgareddau. Rydyn ni'n gwybod sut i ddarparu gweithgareddau da, yr hyn sy'n gweithio a'r hyn sydd ddim yn gweithio. Dyma ein milltir sgwâr ni, ac mae gennym ni fanylion cyswllt lleol.

 Rydyn ni'n gallu trefnu gweithgareddau yn ein canolfan neu fwy neu lai unrhyw weithgaredd yn Ne Cymru neu ger Caerdydd. Rydyn ni'n cysylltu â phob math o lefydd i aros, cludiant (os oes angen), bwytai ac ati. Rhowch wybod i ni faint o bethau dylen ni eu trefnu.

 Penwythnos i ffwrdd cyn priodi, antur gyda ffrindiau, achlysur bythgofiadwy ar gyfer y plant, neu hyd yn oed dreulio amser heb y plant!

 Mae Wales Activity Breaks yn gallu trefnu cyfres o weithgareddau sy'n addas ar gyfer pob achlysur!