Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cymdeithas Pysgota â Phlu Aberpennar

 
Riverside, The Pandy, Hirwaun, Aberdare

Cafodd Cymdeithas Pysgota â Phlu Aberpennar ei ffurfio ym 1958, ac mae ganddi aelodaeth weithgar iawn gyda chystadlaethau rheolaidd. Ei nod yw hyrwyddo pysgota â phlu i bawb. Mae'r gan y Gymdeithas lu o bysgotwyr rhyngwladol ar eu rhestrau ar hyn o bryd ac yn y gorffennol.

Tymhorau:
Cronfa Penderyn – 1 Mawrth tan 31 Rhagfyr
Cronfa Ystradfellte – 1 Mawrth tan 18 Hydref

Mae'r Gymdeithas yn pysgota ar Gronfa Penderyn ger Hirwaun, a Chronfa Ystradfellte ym Mannau Brycheiniog. Y pysgodyn sy'n dal record ar gronfa Penderyn yw pysgodyn 9 pwys 2 owns. Mae gan ddŵr y Gymdeithas uchafswm o ddau bysgodyn y diwrnod a chwe physgodyn yr wythnos.

Pysgod:
Cronfa Penderyn – brithyll a brithyll seithliw
Cronfa Ystradfellte – brithyll

Tocynnau:
Tocyn tymor ar gael – manylion cyswllt isod
Tocyn diwrnod hefyd ar gael o Deb's Newsagents, High Street, Hirwaun.