Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cymdeithas Pysgota â Phlu Osprey

 

Dennis Baynham, Osprey Clubroom, Hen Festri'r Capel, Glancynon Terrace, Abercynon CF45 4TG

Telephone-Icon  07785107099
External-Website-Icon http://ospreyffa.co.uk

Mae Cymdeithas Pysgota â Phlu Osprey wedi bod yn rhedeg ers 1971, ac mae'n cyfarfod bob wythnos yn ei chlwb yn Abercynon, lle mae hyfforddwyr cymwysedig yn cynnal hyfforddiant mewn pysgota plu a thaflu'r lein. Mae nifer o gystadlaethau, mewn cychod ac ar y glannau, yn cael eu cynnal mewn lleoliadau amrywiol ar hyd a lled y wlad yn ystod y tymor.

Tymhorau:
Brithyll (‘brown trout’) – 3 Mawrth tan 30 Medi
Penllwyd (‘grayling’) – 1 Hydref tan 28 Chwefror

Hawliau pysgota:
Gall aelodau bysgota yn y rhan fwyaf o Afon Taf rhwng Glan-bad a'r gwaith trin dŵr yn Abercynon, Cronfa'r Bannau, rhannau ym mhen isaf Nant Clydach ger Ynys-y-bŵl, ac Afon Rhondda rhwng Pontypridd a Threhafod.

Pysgod:
Mae pysgota brithyll a phenllwyd ar gael yn Afon Taf – rydyn ni'n argymell dull bachu a rhyddhau, gan ddefnyddio bachau heb adfachau, cadw dim mwy na dau bysgodyn sylweddol (o leiaf 9") y dydd.

Tocynnau:

Prynu tocyn – Mae modd prynu tocynnau diwrnod i bysgota yn ein hafonydd ar ein gwefan neu o:

Garry Evans, Whitchurch Rd., Caerdydd.

Cafe Royale, Stryd Taf, Pontypridd

Albion Cafe, Cilfynydd.