Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Clwb Golff Aberdâr

 

Golf Road, Aber-nant, Aberdâr CF44 0RY

Telephone-Icon 01685 871188

Ystadegau'r cwrs
18 twll
5,875 llathen
Par 69

Cafodd y clwb ei sefydlu ym 1921, ac mae'r cyfleuster wedi hen ennill ei blwyf yng Nghwm Cynon. Mae'n sefyll dim ond milltir o ganol tref Aberdâr. Mae erwau o ddolydd twt a derw aeddfed yn ffurfio amlinelliad o'n cwrs mewn parcdir ar y mynydd. Mae golygfeydd panoramig o Gymoedd De Cymru yn golygu mai hwn yw'r lle i chwarae golff, i gael cinio ac i gymdeithasu.

 Mae gan Glwb Golff Aberdâr hanes trawiadol ym myd golff. Mae'n enwog am feithrin golffwyr dawnus – gan gynnwys un o gyn-gapteiniaid Cwpan Ryder ac enillydd twrnamaint rhyngwladol, David Rees, a ddechreuodd ei yrfa yma fel chwaraewr proffesiynol cynorthwyol. Mae hwn wedi argoeli'n dda ar gyfer y clwb oherwydd bu wastad ysbryd cystadleuol yma, gan arwain at lwyddiant i unigolion ac i dimau ar lefelau sirol a chenedlaethol.