Ystadegau'r cwrs
18 twll
5,345 llathen
Par 69
Mae Clwb Golff Aberpennar ar ben Mynydd Cefnpennar, ac mae golygfeydd syfrdanol i'r gogledd mor bell â Bannau Brycheiniog a golygfeydd godidog o Gwm Cynon.
Mae croeso cynnes i bawb, ac mae ein gwefan yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar gyfer ymwelwyr. Mae hefyd wybodaeth am y cwrs, gan gynnwys canllaw ar gyfer pob twll, fideos a cherdyn cadw sgôr. Mae ffurflen cadw lle ar-lein ar gael i gymdeithasau, ond byddai'n well gennym ni siarad â chi i sicrhau bod eich diwrnod, eich gêm a'ch gofynion arlwyo mor dda ag sy'n bosibl.