Ystadegau'r cwrs
18 twll
5,951 llathen
Par 71
Cafodd Cwrs Golff Pontypridd ei sefydlu dros 100 mlynedd yn ôl. Mae'n sefyll rhwng Môr Hafren ger Caerdydd a phen isaf Cwm Rhondda. Mae'r rhan yma o Gymru yn brydferth, ac mae'n cynnig golygfeydd naturiol bendigedig lle mae modd gweld boncathod uwchben y ffyrdd clir. Dyma gartref yr arwr Cwpan Ryder, Phillip Price – a fireiniodd ei ddoniau ym Mhontypridd – ac mae'n cynnig llawer o agweddau gwahanol ar golff.
Dyma un o gyrsiau golff harddaf y Deyrnas Unedig. Mae golygfa ysblennydd ger rhai tyllau – Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y gogledd a'r môr yn y de; maen nhw'n eithaf syfrdanol. Mae pawb sydd wedi chwarae ar y cwrs wedi sôn am y ffyrdd clir naturiol a'r lleiniau pytio llyfn.