Mae'r oriel celf a dylunio yma yn cael ei rhedeg gan yr artistiaid preswyl, Gayle Rogers a Chris Williams. Mae'r oriel wedi'i lleoli yn hen lyfrgell Ynys-hir, mae ganddi gyfleusterau sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn ac mae mynediad AM DDIM. Mae'r arddangosfeydd celf a dylunio yn newid yn rheolaidd ac yn cynnwys arddangosfeydd yn y brif oriel, ardal benodol ar gyfer artistiaid yr oriel a stiwdio gelf weithredol. Porwch a phrynu celf, cardiau a phrintiau neu ymlacio yn ein llyfrgell gyfeirnod celf fechan a'r gofod darllen. Cadwch le ar gyfer cyfarfodydd, achlysuron neu ddosbarthiadau, gyda gweithdai gwaith coed a chelfi sy'n cael eu cynnal yn rheolaidd drws nesaf.
Mae'r oriel ar agor dydd Iau, Gwener a Sadwrn 10am–5.00pm.