Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Pyllau Glo Cymru

 
Rhondda Heritage Park, Coed Cae Road, Trehafod, CF37 2NP
Telephone-Icon 01443 682036
External-Website-Icon www.rhonddaheritagepark.com

Mae Taith yr Aur Du'n cael ei harwain gan ein tywyswyr a fu'n gweithio ym mhyllau glo Cwm Rhondda. Byddan nhw'n rhannu eu profiadau a'u straeon o weithio dan ddaear ac yn adrodd hanes yr Aur Du a gafodd ei gludo o Gwm Rhondda i weddill y byd.  Ar ddiwedd pob taith, bydd cyfle i chi neidio ar y DRAM! Ein dram lo rithwir yw hon. Byddwch chi'n cael eich syfrdanu!
Yn ystod eich ymweliad, beth am fynd ar daith am ddim o amgylch ein harddangosfeydd - a oeddech chi'n gwybod bod glo o Gwm Rhondda wedi tanio'r Titanic?
Ar hyn o bryd mae Caffi Bracchi yn gweithredu gwasanaeth pryd-ar-glud yn ogystal â byrddau yn yr awyr agored.
Galwch heibio i'r siop siocled arbennig ac ewch â siocled wedi'i wneud â llaw adref gyda chi! Ar agor nawr!
Os ydych chi'n caru crefftio, dewch i'r llawr cyntaf!  Dewch i Craft of Hearts i bori trwy'r deunyddiau crefftio (mae cyfyngiadau ar y nifer o bobl all ddod i mewn ar y tro) neu byddwch yn greadigol a chadw'ch lle mewn dosbarth crefftio o'ch dewis.
Prisiau Mynediad
Oedolion     £7.95
Plant           £5.84
Teulu          £20