O ganlyniad i bandemig COVID-19 a'r cyfyngiadau wedi'u cyflwyno gan Lywodraeth Cymru, efallai bod rhai cyfleusterau ar gau, neu efallai eu bod nhw ddim y gweithredu yn ôl yr arfer oherwydd rhesymau diogelwch. Cofiwch wirio ymlaen llaw.
Edrychwch i'r awyr yn Rhondda Cynon Taf, dyma le mae rhai o'r cyfleoedd gorau yn y Deyrnas Unedig ar gyfer syllu ar y sêr.
Rydyn ni'n falch o fod ymhlith arloeswyr Awyr Dywyll Cymru, ac mae nifer o safleoedd ar draws y fwrdeistref sirol sy'n cynnig yr amgylchiadau gorau posibl i fwynhau'r sêr, y cytserau a chysawd yr haul.
Mae croeso i chi fwynhau awyr y nos heb frys yn un o'r lleoliadau isod, neu fanteisio ar yr achlysuron sydd ar gael am ddim drwy gydol y flwyddyn.
Mae'r safle rhwng Cwm Rhondda a Chwm Cynon, mewn basn naturiol. Mae'r safle'n cynnig panorama llydan gyda golygfeydd wedi'u cuddio islaw 15 gradd.
Mae'r gilfan ar ben Mynydd y Bwlch. Mae'r safle'n cynnig golygfeydd clir i'r de, i'r dwyrain ac i'r gorllewin.
Mae maes parcio Garn Eiddel ar ben Mynydd y Maerdy. Mae'r safle'n cynnig panorama rhagorol. Mae ychydig o lygredd golau i gyfeiriad y de.
Mae maes parcio Hendre'r Mynydd ar ben Mynydd y Rhigos. Mae'r safle'n cynnig golygfeydd clir i'r de, i'r dwyrain ac i'r gorllewin.
Mae'r safle'n cynnig digon o le i barcio y tu allan i'r maes parcio yn y nos. Mae'r safle mewn lle cyfleus rhwng Trehopcyn a Threhafod.
Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn cynnig digon o le i barcio ac ardal fawr i wylio awyr y nos. Gorwelion da gyda golygfa wedi'i rhwystro ychydig i'r gorllewin.
Mae'r safle ar dir uchel ger Pontypridd. Mae'r safle'n cynnig golygfeydd bendigedig o'r Cymoedd a'r holl ffordd i Fôr Hafren.
Mae Tafarn Llew Coch yn agos i'r pentref gwledig, Penderyn, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.