Mae maes parcio Garn Eiddel ar ben Mynydd y Maerdy. Mae'r safle'n cynnig panorama rhagorol. Mae ychydig o lygredd golau i gyfeiriad y de.
Cyfarwyddiadau: Mae modd cyrraedd y safle o Gwm Rhondda ac o Gwm Cynon ar hyd ffordd Mynydd y Maerdy (A4233).
Nodiadau diogelwch: Mae'r safle'n eithaf diogel, ond mae rhaid cymryd gofal wrth gerdded o amgylch y safle oherwydd llethrau serth a'r ffordd fynydd gerllaw.
Defnyddwyr cadeiriau olwyn: Mae'r safle'n eithaf gwastad â cherrig mân ar lawr, ond mae modd i'r rhan fwyaf o bobl anabl symud o amgylch â gofal. Mae ardal o darmac hefyd ar gael gyda mannau parcio cyfagos.
Edrychwch ar ein siart seren ar gyfer Maes Parcio Garn Eiddel