Ar ôl diwrnod hir o siopa, ymweld â safleoedd neu fwynhau ein golygfeydd ysblennydd naturiol, does dim byd gwell nac ymlacio â thamaid o fwyd. Rydyn ni'n hynod o falch ein bod ni'n gartref i ystod eang o Bistros mewn trefi a phentrefi ar hyd a lled ein bwrdeistref sirol.
Mae nifer ohonyn nhw'n gweini detholiad o ddanteithion unigryw a blasus gan ddefnyddio cynnyrch lleol, ac mae rhai hyd yn oed yn cynnig peint o gwrw neu seidr sydd wedi cael ei fragu yma yn Rhondda Cynon Taf!
Mae Alfred's yn cynnig cynnyrch ffres a bwydlenni tymhorol mewn awyrgylch cyfeillgar ac mae wedi'i leoli yn ddelfrydol yn nhref hanesyddol Pontypridd.
Cardiff Arms Bistro Hotel
Mae'r busnes teuluol yma yn sefyll yng nghanol pentref prysur Pont-y-clun ac mae'n defnyddio bwydydd lleol, ble bo'n bosibl, yn ei fwydlen draddodiadol.
O'r traddodiadol i'r egsotig, mae'r brasserie yma'n defnyddio'r cigoedd gorau i greu pryd o fwyd cofiadwy yn amgylchoedd hardd hen dref Llantrisant.
Mae'r tŷ bwyta yma yn perthyn i Alfred's ym Mhontypridd ac mae'n cynnig bwyd traddodiadol gyda thuedd Eidalaidd.
Mae'r tŷ bwyta rhagorol yma yn gweini bwyd tymhorol ac yn defnyddio cynnyrch lleol. Dewch i fwynhau'r awyrgylch cyfeillgar a chynnes.