Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Caffis

 

Mae llawer o'r caffis cyfeillgar a llwyddiannus yn ein stryd fawr wedi bod yn rhan o'r un teuluoedd ers cenedlaethau – ac mae eu gwreiddiau yn yr Eidal.

Daeth miloedd o fewnfudwyr i'r Cymoedd o'r rhanbarth Bardi yn yr Eidal o'r 1890au ymlaen – gan agor caffis, siopau hufen iâ, a siopau pysgod a sglodion.

P'un ai'ch bod chi'n dymuno cael disgled a phice ar y maen neu frecwast llawn, mae dewis da o gaffis ar gael.

Butchers Arms Gallery

Cewch chi groeso cynnes yn y siop goffi yma, sydd mewn hen dafarn yn Llantrisant

Cafe Royale

Profwch flas gwirioneddol yr ardal yn y caffi yma sy'n nodweddiadol o'r cymoedd ac sy'n gweini prydau bwyd poeth, brechdanau a lluniaeth.

Caffe Bracchi – Parc Treftadaeth Cwm Rhondda

Mae'r caffi modern ac agored yma yn gweini prydau traddodiadol Cymreig ynghyd â byrbrydau a chacennau.

Conti's Cafe

Mae'r caffi traddodiadol yma yn y cymoedd wedi bod yn gwasanaethu pentref Tonypandy ers blynyddoedd gyda choffi Eidalaidd go iawn, cacennau a bageti.

Cortile Coffee

Siop a bar coffi teuluol annibynnol ym marchnad dan do hanesyddol Pontypridd yw Cortile Coffee.

Cosy Cafe

This traditional Valleys cafe has been a fixture of Treorchy for many years providing the town with freshly-made coffee, hot meals and snacks.

Country Kitchen

Mae'r caffi traddodiadol yma yn gweini brecwast a byrbrydau drwy gydol y dydd.

Empire Cafe

Mae'r caffi traddodiadol yma yn gweini bwyd cartref blasus mewn amgylchoedd cyfforddus a chyfeillgar.

Garwnant Visitor Centre

Yn y caffi, mae modd i chi fwynhau hufen iâ o Gymru Welsh Mario, prydau arbennig a ffefrynnau ein cwsmeriaid - coffi a chacen!

High Social Street

Bod yn "gymdeithasol" oedd ysbrydoliaeth enw High Street Social, Treorci. Mae'r sefydliad yn lle gwych i gymdeithasu â ffrindiau a theulu. Ymlaciwch, a mwynhewch fwyd gwych a choffi arbennig, cyfeillgarwch ac awyrgylch newydd.

Hot Gossip

Mae'r busnes teuluol yma yn boblogaidd iawn yn Nhreorci.

Le Crazy Croissant

Mae Le Crazy Croissant mewn lleoliad delfrydol yng nghanol Pontypridd ac mae'n dod â blas ar Ffrainc i'r cymoedd.

Pino's Cafe

Mae'r caffi Eidalaidd go iawn yma yn cael ei redeg gan drydedd genhedlaeth o Eidalwyr sydd wedi bod yn draddodiad yn y cymoedd ers amser maith.

Porcellinis

Yn ogystal â chael cyfle i greu eich eitemau ceramig eich hunan, cewch chi hefyd archebu bwyd cartref ffres gan gynnwys bara wedi'i bobi'n ffres, cacennau a smŵddis Masnach Deg.

Princes Cafe

Mae'r caffi yma yn rhoi blas ar y gorffennol gyda'i arddull art deco a'i fwydlen draddodiadol. Wedi'i leoli wrth galon Pontypridd, mae'r caffi yn cynnig crystiau, cacennau a bara wedi'u pobi'n ffres.

Servini's

Mae'r caffi yma yn gweini byrbrydau blasus sawrus neu felys drwy gydol y dydd.

SubZero – siop hufen iâ

This traditional ice cream parlour serves the Subzero ice cream made right here in the Rhondda Valleys, which is eaten all over the world

The Potting Shed

Yn ogystal â gwerthu anrhegion hardd, mae'r Potting Shed yn gaffi clyd sy'n gwerthu cacennau cartref, byrbrydau a lluniaeth.

Wonderstuff Tearoom

Wedi'i lleoli yn y Siop Anrhegion nodedig yma, mae'r ystafell de hen ffasiwn yma yn gweini amrywiaeth o gacennau cartref gyda the neu goffi mewn llestri o'r gorffennol.