Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant wedi'i lleoli ychydig oddi ar yr A470 i'r dde o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae Canolfan Ymwelwyr Garwnant yn fan cychwyn ar gyfer llwybrau cerdded, llwybrau beicio mynydd a llwybr hygyrch y mae modd i ddefnyddwyr cadair olwyn a phramiau ei fwynhau. Mae Garwnant yn cynnig diwrnod perffaith ar gyfer y teulu cyfan gan fod yna sawl cyfleuster arall, gan gynnwys dau lwybr pos, cwrs rhaffau isel a man chwarae yn yr awyr agored. Mae gyda ni gaffi sy'n croesawu cŵn lle mae modd i chi fwynhau cynnyrch lleol a golygfeydd hardd.
Yn y caffi, mae modd i chi fwynhau hufen iâ o Gymru Welsh Mario, prydau arbennig a ffefrynnau ein cwsmeriaid - coffi a chacen! Rydyn ni hefyd yn cynnal sawl achlysur trwy gydol y flwyddyn, felly cofiwch ddilyn ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol i dderbyn y newyddion diweddaraf.
Caffi sy'n gyfeillgar i gŵn, cyfleusterau hygyrch, cyfleusterau newid babi, parcio, man picnic, man chwarae.
Sgôr Hylendid Bwyd 4* (21/06/2017).