Bod yn "gymdeithasol" oedd ysbrydoliaeth enw High Street Social, Treorci. Mae'r sefydliad yn lle gwych i gymdeithasu â ffrindiau a theulu. Ymlaciwch, a mwynhewch fwyd gwych a choffi arbennig, cyfeillgarwch ac awyrgylch newydd... Mae'r sefydliad yn rhan o Dde Cymru bywiog newydd!
Mae'r gŵr a gwraig, Geraint a Catherine Hughes, yn berchen ar High Street Social. Maen nhw'n gobeithio cynnal traddodiad llwyddiannus y safle, sy wedi para 70 mlynedd erbyn hyn. Roedden nhw'n dwlu ar Gaffi Carpanini, a oedd arfer bod ar y safle.
Cafodd y fwydlen ei llunio gyda chymorth y cogydd arbennig, Scott Davies. Mae nifer o adolygiadau wedi canmol y lle i'r cymylau oherwydd safon ac amrywiaeth y bwyd, sy'n newid yn aml.
Maen nhw'n ailstocio'r seler fawr yn aml gyda'ch hoff bethau. Mae amrywiaeth o ddiodydd i chi eu hyfed gyda'ch bwyd gan gynnwys coffi, lager, cwrw a gwin. Mae'r caffi hefyd yn gwerthu rhai o gynhyrchion gorau Cymru.
Galwch heibio i weld beth sydd ar gael – fyddwch chi ddim yn cael eich siomi!