Mae digon ar y fwydlen yn Rhondda Cynon Taf. Mae gennym ni ddewis eang o gaffis, bwytai a lleoedd bwyta at ddant pawb.
Mae'r rhain yn cynnwys bwytai lleol sydd hefyd yn bragu eu cwrw eu hunain i gyd-fynd â'u bwydlen, a rhai o siopau pysgod a sglodion gorau'r Deyrnas Unedig!
Mae Rhondda Cynon Taf hefyd yn gartref i'r siopau hufen iâ hynod boblogaidd, Mr Creamy a Subzero, sy'n gwerthu hufen iâ traddodiadol, pwdinau a mwy.
Cofiwch, mae bwyd a diod gorau Rhondda Cynon Taf yn cael eu harddangos bob blwyddyn yn yr ŵyl Cegaid o Fwyd Cymru.
Mae nifer ohonyn nhw'n gweini detholiad o ddanteithion unigryw a blasus gan ddefnyddio cynnyrch lleol, ac mae rhai hyd yn oed yn cynnig peint o gwrw neu seidr sydd wedi cael ei fragu yma yn Rhondda Cynon Taf!
P'un ai'ch bod chi'n dymuno cael disgled a phice ar y maen neu frecwast llawn…
Mae dewis o blastai gwledig, bwytai llwyddiannus a safleoedd bwyd eraill i gyd ar y fwydlen yn Rhondda Cynon Taf.
Mae digonedd o siopau'n gweini hoff bryd parod y wlad yma yn Rhondda Cynon Taf! Hoffech chi halen a finegr?
Mae modd i chi deithio'r byd heb adael y fwrdeistref sirol diolch i'n dewis blasus o fwytai sy'n gweini bwyd rhyngwladol
Os yw'n well gennych chi rywbeth cyfarwydd o ran profiadau bwyta, peidiwch â phoeni – mae gennym ni ddewis eang.
Codwch wydryn a dymunwch “iechyd da” oherwydd, wedi'u nythu rhwng ardaloedd gwledig ysblennydd a gyferbyn â'n tai teras, mae dewis eang o dafarndai gwych sy'n addas ar gyfer y teulu.