Mae modd i chi deithio'r byd heb adael y fwrdeistref sirol diolch i'n dewis blasus o fwytai sy'n gweini bwyd rhyngwladol.
Mae gyda ni fwytai Eidalaidd go iawn, bwytai Indiaidd calonnog a chyfeillgar, profiadau bwyta Thai o fri, bwyd Twrcaidd… enwch eich lleoliad!
Dewis eang o brydau Indiaidd mewn awyrgylch cynnes a chyfeillgar.
Authentic Indian cuisine in the heart of Aberdare.
Mae'r addurno newydd, modern a moethus yn cynnig lle hyfryd i ymlacio. Bydd gweinyddion gwasanaethgar a gwybodus yn gofalu am eich anghenion yn ystod eich ymweliad.
Mae'r Cymoedd wedi bod yn gartref yr Eidalwyr ers tro, a bydd y bwyty yma'n gweini bwyd Eidalaidd go iawn am genedlaethau i ddod.
Dewis eang o fwydydd Tsieineaidd mewn bwffe.
Bwffe lle y gallwch fwyta llond eich bol, gyda dewis o fwydydd o bedwar ban byd.
Bwyd Twrcaidd traddodiadol wedi'i goginio ar dân siarcol o'ch blaen ym mhrydferthwch Cwm Cynon.
Busnes teuluol sy'n cynnig blas ar y Dwyrain yng Nghwm Rhondda. Mae'r prydau'n cael eu coginio o'ch blaen yn y gegin agored ac yn cael eu gweini mewn amgylchedd Thai traddodiadol.
Mae The Cinnamon Tree yn gweini prydau Indiaidd go iawn mewn lleoliad modern a chyfforddus.