Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Roam Wales

 
Telephone-Icon 07486 279815

Mae 'Roam Wales' yn cynnig detholiad heb ei ail o deithiau ac anturiaethau wedi'u trefnu sy'n fforddiadwy yn Ne Cymru.

Ymunwch â'n teithiau cyffrous a phrofi tirnodau hanesyddol Cymru mewn awyrgylch hamddenol ac addysgiadol.

Teithio fel unigolyn neu ran o grŵp bach ... ymunwch â thaith dywys a phrofi antur a fydd yn aros gyda chi am flynyddoedd i ddod. Maen nhw'n addas ar gyfer pob oed a gallu, bydd ein cerbydau'n eich cludo chi i ardaloedd o harddwch eithriadol. O'r gorffennol i'r presennol ... o fynydd i fôr... dinas i bentref ... glo i wisgi... gyda gyrrwr a fydd yn eich diddanu a'ch addysgu gan ddangos tirnodau hanesyddol Golygfeydd a fydd yn byw gyda chi am byth!