Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Safle Seindorf

 

Yn 1980, cafodd y safle seindorf ei greu allan o bren ac roedd ganddo lwyfan heb do. Cafodd ei leoli ar ochr y llyn ac roedd lle ar gyfer hyd at 30 o bobl.

Cafe---Lake---Bandstand---Fountains---Flowers---Birds---2018-7
Y Safle Seindorf

Cafodd y broblem mewn perthynas â lleoliad y safle seindorf ei chodi ac roedd gofyn i symud y safle seindorf. Yn dilyn trafodaethau, cafodd y cais gwreiddiol ei wrthod a dim ond yn 1910 cafodd y mater ei godi unwaith eto.

Siâp octagon sydd gan y safle seindorf ac mae ganddo do siâp ogee a rheiliau haearn o'i gwmpas. Cafodd ei greu yn 1910 gan Gwmni Phoenix Engineering ac argymhellwyd lleoli'r safle seindorf yng nghanol y llyn. Cafodd y safle seindorf ei agor ar 29 Mehefin 1911 yn rhan o ddathliadau coroni Brenin Siôr V. Amcangyfrifwyd bod 15,000 o bobl yn bresennol.

Yn dilyn trafodaeth ynghylch iechyd a diogelwch, penderfynwyd  symud y safle seindorf i'w leoliad cyfredol.