Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Y Ffynnon Goroni

 

Yn 1911, cyflwynodd yr Arglwydd Merthyr ffynnon haearn bwrw coeth i breswylwyr Aberdâr i ddathlu coroni'r Brenin Siôr V a'r Frenhines Mary.

Fountain - aberdare park
Y Ffynnon Goroni ym Mharc Aberdâr

Mae'r ffynnon, sydd wedi cael ei phaentio, yn cynnwys pwll ag ymylon ar ogwydd ac sydd wedi'i addurno â rhosedi a sêr. Yng nghanol y rhain mae yna blinth crwn sydd wedi'i addurno â phedwar dolffin a cheriwb. Ar ben y ffynnon mae yna belicanod sy'n dal basn sblae bach i fyny. Ar ben yr holl beth mae yna ffigwr o fenyw mewn gŵn.

Dyma un o ddwy ffynnon o'r math a'r cyfnod yma yn y wlad, a dim ond tair ffynnon o'r math a'r cyfnod sydd yn y byd. Mae'r ffynnon olaf yn Singapôr.

Cafodd y ffynnon ei hadnewyddu yn 2017/18 ac mae'r ffynnon bellach yn gwbl weithredol am y tro cyntaf ers 30 blynedd.