Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cylch yr Orsedd

 
Ym 1861, cafodd yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf erioed yng Nghymru ei chynnal yn Aberdâr ar ran o gomin Hirwaun, a ddaeth yn Barc Aberdâr.

Cerddodd gorymdaith o 2,000 o bobl o ganol tref Aberdâr i'r parc dan arweiniad Seindorf Arian Cwmaman.  Cafodd yr achlysur ei darlledu gan y BBC.

Penderfynwyd rhannu'r parc yn ddwy ran at ddibenion yr achlysur yma: cafodd pen uchaf y parc, sy'n cynnwys mwyafrif y cae canolog, ei ddyrannu i ddathliadau'r Eisteddfod tra'r oedd rhan isaf y parc wedi'i gadw ar gyfer defnydd cyffredinol gan y cyhoedd.