Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Planhigion, blodau a bywyd gwyllt yn y parc

 
Mae nifer o lwybrau cerdded o amgylch y parc, a fydd yn eich tywys chi o amgylch y cynefinoedd amrywiol sydd i'w gweld yma. Mae'r cynefinoedd sydd i'w gweld yn y parc yn cynnwys glaswelltir sydd wedi'i wella, gwrychoedd a choetiroedd.

Planhigion

Coedwig Dderw

Cynefin cyfoethocaf Parc Aberdâr yw'r goedwig dderw sydd wedi bod yn mynd trwy broses adfywio naturiol ers 10 mlynedd. Mae hyn wedi galluogi datblygiad graddol o brysgwydd sy'n cynnwys cyll, onwydd a chelyn yn ogystal â llwyni a glaswellt amrywiol. Mae'r holl bethau yma wedi cyfrannu at gynnig strwythur da ar gyfer adar ac ystlumod.

Gardd y Rhosynnau

Ger y fynedfa i'r Parc ar Lôn y Parc mae gardd y rhosynnau sy'n cynnwys 17 gwely addurniadol, ac mae gan bob un ohonyn nhw amrywiaeth o rosod gwahanol. Mae yna rywbeth i bawb, o arogl ysgafn rhosyn 'Peace' i'r rhosyn mwy traddodiadol a melys o'r enw 'Blessings'.

Dyma un o fannau mwyaf tawel Parc Aberdâr ble mae modd i chi eistedd ac ymlacio.

Gwelyâu Rhosod Parc Aberdâr:
Map o Gerddi Rhosod a'r allwedd plannu

2304
‘Alpine Sunset’
2313
‘Superstar’
2305
‘Fragrant Cloud’
2314
 ‘Peace’
2306
‘Dutch Gold’
2315
‘Iceberg’
2307
‘Princess de Monaco’
2316
' National Trust’
2308
‘Picadilly’
2317
‘Pink Peace’
2309
‘Gaujard’
2318
‘Blessings’
2310
‘Deep Secret’
2319
‘Polar Star’
2311
 ‘Lovers Meeting’
2320
‘National Trust’
2312
 ‘King’s Ransom’
 
 
Aberdare rose garden

Coed

Cafodd mwyafrif y coed aeddfed sydd i'w gweld yn y parc heddiw eu plannu yn 1867 gan William Barron, cyn agoriad swyddogol y parc yn 1869. Yn dilyn sawl ymdrech i deneuo'r coed yn y parc, ym 1912 lluniodd Mr Elliott (BSc), athro yn ysgol y sir, lyfryn manwl a oedd yn nodi pob un o'r 82 rhywogaeth  o goed a llwyni yn y parc (gan gynnwys genws a rhywogaethau yn Lladin). Cafodd y llawlyfr yma ei werthu ger gatiau'r parc ac mae modd gweld copi o'r llyfryn yn Llyfrgell Gyfeiriadurol Aberdâr heddiw. Yn ystod y blynyddoedd ar ôl hyn, cafodd rhagor o waith teneuo ei gynnal; yna ym 1989 ac 1990, roedd stormydd mawr wedi dadwreiddio dros 100 o goed.

Heddiw, mae ein parc yn gartref i enghreifftiau o goed diddorol ac aeddfed.

Mae gan rai o'r coed yma arwyddocâd hanesyddol, fel tair Castanwydden y Meirch a oedd wedi'u lleoli yng nghanol y cae. Cafodd y coed yma eu plannu gan Frenin Siôr V a'r Frenhines Mary yn rhan o ddathliadau coroni Brenin Siôr V ym 1911. Yn anffodus, roedd rhaid torri dwy allan o'r tair coeden i lawr yn ystod yr hydref yn 2018 oherwydd eu bod nhw'n peri risg i iechyd a diogelwch ein hymwelwyr. Fodd bynnag, yn ystod yr hydref yn yr un flwyddyn, cafodd tair coeden eu plannu yn eu lle i ddathlu pen-blwydd Parc Aberdâr yn 150 oed. Cafodd y tair derwen (Quercus palustris) eu rhoi i'r Parc gan Amgueddfa Cwm Cynon a chawson nhw eu plannu yn rhan o ddathliadau'r parc. Bydd y tair coeden yma'n llwyddo a bydd modd i ni eu mwynhau nhw am flynyddoedd i ddod.

Mae coed gwefreiddiol eraill yn y parc yn cynnwys y Gochwydden Fawr (Sequoiadendron giganteum), Cochwydden y Wawr (Metasequoia glyptostroboides), a  Chochwydden Japan (Cryptomeria japonica).

Mae gan y parc gasgliad prydferth o Aceri sy'n cynnig lliw hyfryd yn yr hydref; mae dail y Goeden Katsura (Cercidiphyllum japonicum) yn arogli o siwgr wedi'i losgi; Coeden Haearn Persia (Parrotia persica) sy'n goeden gryf iawn neu'r Goeden Cas Gwn Fwnci (Araucaria araucana).

Llwyni

Pan gafodd y parc ei blannu am y tro cyntaf, roedd yn cynnwys amrywiaeth o lwyni, ac mae dal modd gweld rhai o'r rhain heddiw.

Mae'r casgliad mawr o Rododendronau ac Asalêu yn rhoi lliw syfrdanol i'r parc yn ystod y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf. Mae llwyni fel Viburnum tinus, Berberis darwinii a'r Mahonia japonica, hefyd yn gynefin defnyddiol ac yn ffynhonnell fwyd ar gyfer adar bach. Mae rhai gwrychoedd mor amlbwrpas fel bod modd eu siapio nhw, er enghraifft Lonicera pileata 'Baggesen's Gold' sydd wedi cael ei docio i edrych fel agerfad ac fel trên ager hefyd. Beth am fynd i weld os gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw wrth gerdded o gwmpas y parc?

Blodau

Dim ond ym mis Hydref 1912 pan gafodd £6 ei wario ar fylbiau blodau yr oedd y blodau wedi dechrau chwarae rhan bwysig o ran dyluniad y parc.

Mae sawl gwely blodau tymhorol yn ein parc, lle mae'r blodau ar eu gorau yn ystod y gwanwyn a'r haf. Yn ogystal â hynny, mae gyda ni nifer o ymylon llysieuol.  Mae pob un o'r rhain wedi'u gosod mewn mannau pwysig er mwyn gwneud y gorau o'n nodweddion hanesyddol hardd. Mae planhigion (fel Lafant, Blodau'r Fagwyr a Saets ymhlith eraill) yn ffynhonnell fwyd gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth o bryfed sy'n ymweld â'r parc (pili-palaod, gwenyn a gwenyn fêl ac ati.).

Ffawna

Adar

Bird Feeding Zone
Parthau Bwydo Adar Parc Aberdâr

Mae Parc Aberdâr yn lleoliad gwych i wylio adar. Mae yna sawl amrywiaeth o rywogaethau gwahanol o adar y mae modd eu gweld yn ein parc. Mae'r rhain yn cynnwys Gŵydd yr Aifft a'r aderyn bach a gwibiog, y Dringwr Bach. Mae ein parc yn gartref i adar bach a mawr.

Mae nifer o bobl wedi sôn eu bod nhw wedi gweld Bwncathod, Bronfreithod, Delor y Cnau a Llinosiaid Gwyrdd ymhlith eraill. Os ydych chi'n eistedd yn yr ardd rhosod neu ger y Cerflun o'r Arglwydd Merthyr, byddwch chi hefyd yn gweld ein hymwelwyr cyson fel y Robin Goch, Titw Tomos Las neu'r Aderyn Du.

Yn gynnar yn y bore yn ystod y Gwanwyn, mae'n bleser clywed y cymysgedd o adar yn canu yn y parc. Yn ystod yr Haf, mae'n bosibl cewch chi glywed cri'r Dylluan Frech.

Fyddai'n well gyda chi eistedd ar bwys y llyn a gwylio'r Adar Gwyllt? Gyda chymorth grŵp Cyfeillion Parc Aberdâr, mae caffi Parc Aberdâr yn cynnig bagiau o fwyd adar er mwyn eich annog chi i beidio â bwydo bara i'r gwyddau a'r hwyaid yn y parc. Er bod yr adar yn mwynhau bara, dyw'r bara ddim yr un mor faethlon â bwyd adar. Byddan nhw'n mwynhau'r bwyd yma a bydd yn cadw'r adar yn iachus.

Beth bynnag rydych chi'n penderfynu'i wneud, sicrhewch eich bod chi'n bwydo'r adar yn y parthau gwyrdd. Gyda'ch cymorth chi, mae modd i ni leihau swm y baw adar sydd ger y caffi a'r toiledau.

Pysgod

Yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2016, cafodd y llyn ei dreillio'n rhannol a'i selio a chafodd y llwybrau cerdded o gwmpas y llyn eu trwsio. Er mwyn cwblhau'r dasg enfawr yma, roedd angen symud y pysgod gwreiddiol. Ar ôl i'r gwaith trwsio gael ei gwblhau ac ar ôl i'r llyn setlo, roedd modd i ni ailgyflwyno Cerpynnod Cyffredin yn gynnar ym mis Chwefror 2018 er mwyn i bawb eu mwynhau. Yn gynnar yn hydref 2018, cafodd rhan o'r llyn ei neilltuo i blannu planhigion dyfrol fel planhigion ocsigenedig a lili'r dŵr. Ymhen amser, bydd y rhain yn cynnig lle diogel ble mae modd i bysgod fridio a chuddio o'r ysglyfaethwyr.

Beth am i chi weld a oes modd i chi ddod o hyd i un o'n cerpynnod hyfryd yn agos i wyneb y llyn wrth gerdded o gwmpas y llyn yn yr haf?

Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn

Yn ystod yr haf yw'r amser gorau i weld ac edmygu rhai o'n pili-palaod cyffredin. Mae'r Fantell Goch a'r Peunod yn gyson yn torheulo ar ein ond byddwch chi hefyd yn gweld y Rhiain Fraith, Gwyn Blaen Oren, Copor Bach, y Trilliw Bach ac ati.

Mae'r parc hefyd yn gartref i anifeiliaid di-asgwrn-cefn eraill hefyd, megis Gwenyn Mêl, Cacwn, ac arachnidau lliwgar fel Copyn y Groes Oren.

Os ydych chi'n ymweld â'r parc gyda'ch plant, dyma ffordd wych o roi cyfle iddyn nhw ddod i hyd i'r amrywiaeth o bili-palaod, gwenyn ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn sydd i'w gweld yma. Beth am gynnal Helfa Pryfed i gyfrif faint mae modd i chi'u gweld?

Mamaliaid

Oherwydd y cynefinoedd amrywiol sydd ar gael ym Mharc Aberdâr, mae'r parc yn le perffaith i weld amrywiaeth o famaliaid bach.

Un o breswylwyr mwyaf busneslyd y parc yw'r Wiwer Lwyd o America, a fydd o hyd yn dweud helo ac, mewn rhai achosion, bydd yn fodlon bwyta cnau o'ch dwylo.

Fodd bynnag, mae yna famaliaid llai amlwg, fel llwynogod, llygod y maes ac ystlumod sydd hefyd yn ymweld â'r parc neu sy'n byw yma.