Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Hanes Rasys Beiciau Modur Parc Aberdâr

 
Sawl blwyddyn yn ôl, aeth grŵp o bobl angerddol ati i sefydlu clwb cerbydau modur ysgafn a beiciau modur Aberaman a'r cylch.

Bwriad y bobl yma oedd creu grŵp sgwrsio ble roedd modd i bobl rannu'u breuddwydion o rasio cerbyd ar lwybr lle'r oedd modd i bobl leol ac ymwelwyr i dref Aberdâr ddod i wylio unwaith yr wythnos.

Roedd dod o hyd i gyllid yn her fawr ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd oherwydd lefelau diweithdra uchel a thueddiadau'r farchnad ansefydlog ac ati. Fodd bynnag, tu ôl i'r llen, roedd achlysuron rasio anghyfreithlon gyda'r hwyr yn cael eu cynnal ar dir Parc Aberdâr o 1949 ac ym 1950 roedd y llywodraeth leol wedi ildio ac wedi caniatáu i'r ras ffordd gyfreithlon gyntaf gael ei chynnal ar y ffordd sy'n mynd o gwmpas y Parc Fictoraidd yma.

Yn gyflym iawn daeth llawer o bobl i wybod am yr achlysur yma ac ar ddiwrnod niwlog y rasys ar 18 Mehefin 1955, anfonodd y BBC griw o ddynion camera i'r gylchffordd i ddarlledu rasys ffordd yn fyw am y tro cyntaf.

Mae'r gylchffordd ei hun yn filltir o hyd ac mae rhai yn ystyried y gylchffordd fel un o'r rhai gorau yn y byd.

O ganlyniad i hynny, mae'r achlysur wedi denu rhai o raswyr ffordd gorau'r byd, John Surtees, John Cooper, Malcolm Uphill, Neil Tuxwoth, Mike Hailwood, ac yn fwy diweddar, Brenin y Mynydd, John Macguinness, enillydd rasys TT, Steve Plater, Ian Lougher a Dan Cooper ymhlith nifer o bobl eraill.

Ym 1988 roedd dyn ifanc o'r enw Carl Fogarty wedi llwyddo i gwblhau lap o'r gylchffordd mewn 42.5 eiliad, gan dorri'r record flaenorol o 45.2 eiliad. Wrth i dechnoleg y byd beicio ddatblygu, mae'r record yn agosáu at 38 eiliad.

O fewn cyfnod byr, roedd enw da'r rasys wedi lledu ac roedd yn denu torfeydd o 15000 o bobl yn gyson i Barc Fictoraidd sy'n cynnwys cylchffordd hanesyddol sydd wedi ennill statws Acu Cenedlaethol. Bydd hyn yn rhoi hwb enfawr i dwristiaeth yng Nghymru a busnesau lleol.

Mae nifer o newidiadau ers hynny wedi golygu bod y parc wedi goroesi achlysuron mawreddog eraill. Yn 2018-19, y Ras Ffordd Genedlaethol a gafodd ei chynnal ym Mharc Aberdâr oedd yr unig Ras Ffordd ar ôl yn y DU. Yn 2010, daeth cynrychiolwyr o gylchgrawn Top Gear i'r achlysur ac yn dilyn arolwg, cyrhaeddodd y gylchffordd safle rif 6 mewn rhestr o 10 cylchffordd orau'r byd.

Wrth i'r achlysur barhau i dyfu o ran strwythur ac wrth i dechnoleg ddatblygu, bydd yr achlysur mawreddog yma'n denu raswyr sy'n ceisio cipio'r wobr a thorri'r record er mwyn cyrraedd Neuadd Enwogion Aberdâr.