Mae Canolfan Phoenix yn sinema ac yn theatr i'r gymuned sydd wedi'i lleoli mewn adeilad rhestredig Gradd 2.
Mae Canolfan Phoenix yn eiddo i Gymdeithas Datblygu Cymuned Cwm Rhondda. Menter Busnes Cymuned Cwm Rhondda sy'n cynnal y pwyllgor. Neal Hammond yw Ysgrifennydd y pwyllgor. Fe ymgeisiodd am gyllid yn 2012 a dalodd am y taflunydd digidol, y Swyddog Marchnata a'r taflunydd newydd.
Er bod yna gyllid ar gael ar gyfer pethau penodol, yr arian sy'n cael ei gasglu o'r sinema, llogi'r lleoliad a gwerthu drwy'r ciosg sy'n talu am waith cynnal a chadw'r adeilad.