Mae Cymoedd Rhondda yn ddau o gymoedd enwocaf Cymru. Maen nhw'n gartref i gorau meibion a bandiau pres enwog, ac mae treftadaeth falch yn perthyn i'r ardal o ran y diwydiant glo. Mae'r cymoedd hefyd yn ardal o harddwch naturiol, gyda choedwigoedd a bryniau'n sefyll uwchben cymunedau o dai teras – sy'n glynu wrth ochrau'r cymoedd mewn mannau. Dyma daith a fydd yn cymryd diwrnod cyfan, gan gynnwys ymweld â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda am o leiaf 2 awr. Dyma gyfle i chi werthfawrogi Cymoedd Rhondda, eu hanes, eu treftadaeth adeiledig, eu cymunedau, a phrydferthwch byd natur.
I gael rhagor o wybodaeth:
E-bost: YmholiadTwristiaeth@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Ffôn: 01443 424052
Llwybr Treftadaeth – Teithiau Gyrru – Taith 3 Cwm Rhondda