Dilynwch lwybr Traffordd Dr Richard Griffiths - llwybr a gafodd ei adeiladu ym 1809 i gysylltu pyllau glo cyntaf Cwm Rhondda â Chamlas Morgannwg a gwaith diwydiannol Pontypridd.
Bydd y daith gerdded yn eich tywys trwy Barc Gwledig hyfryd Barry Sidings heibio i fannau diddorol gan gynnwys Tŷ'r Injan Hetty a Chapel Cwm Rhondda lle cafodd cerddoriaeth yr emyn enwog 'Cwm Rhondda' ei chyfansoddi gan John Hughes.
Mae modd cychwyn ar y daith gerdded 3.2km o hyd o Daith Pyllau Glo Cymru (CF37 2NP) neu Faes Parcio Heol Sardis (CF37 1LE). Mae'r daith yn para tua 1 awr. Am brynhawn gwych, beth am ymweld â Thaith Pyllau Glo Cymru i ddechrau, yfed 'freakshake' yng nghaffi Parc Gwledig Barry Sidings yn ystod y daith, a phori yn Amgueddfa Pontypridd i ddod â'r dydd i ben?