Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Llwybr Treftadaeth Llantrisant

 
 
llantrisant--heritage-walk

Wedi'i leoli yn nhref hyfryd Llantrisant a oedd yn gadarnle pwysig yn yr Oesoedd Canol, bydd y llwybr llafar yma yn rhoi cipolwg difyr i chi ar hanes Llantrisant. 

Mae'r llwybr yn eich tywys o gwmpas nifer o leoliadau allweddol, gan gynnwys cerflun y derwydd ecsentrig, Dr William Price, a gynhaliodd yr amlosgiad cyfreithiol cyntaf; Castell Llantrisant, a oedd ar un adeg 'gartref' i'r Brenin anffodus Edward II a gafodd ei garcharu yno. Defnyddiwch drac sain Llwybr Llafar Llantrisant i gael rhagor o wybodaeth am hanes y dref.

Bydd y daith gerdded 1km yn cychwyn ac yn gorffen ym Maes Parcio Gwaun Rhiw'r Perrai ac yn para tua 1 awr. Beth am ymweld â'r Model House, pori yn rhai o siopau'r dref a chael pryd blasus yn un o'r bwytai er mwyn treulio prynhawn cyfan yn y dref?

Nodwch fod rhywfaint o dir anwastad, gan gynnwys rhai esgyniadau serth a disgyniadau yn Llantrisant. Efallai fydd y daith yma ddim yn addas felly ar gyfer cadeiriau gwthio neu gadeiriau olwyn, neu bobl â phroblemau symudedd.

Allwedd

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 0.6 milltir / 1 km
  • Graddfa: Hawdd
  • Tirwedd: Amrywiol
  • Hyd y daith: Tua awr i gwblhau'r daith
  • Camfeydd/Sticlau: Dim

Lawrlwytho:
Llyfryn Llwybrau Treftadaeth – Taith Gerdded Llantrisant

Llwybrau cysylltiedig