Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Taith Comin Pontypridd

 
 
Pontypridd-Common-Box

Gan roi cipolwg diddorol i chi ar hanes Comin Pontypridd, bydd y Daith Gerdded Treftadaeth yma yn eich tywys o gwmpas lleoliadau pwysig, gan goffáu pobl, lleoedd ac achlysuron nodedig sy'n rhan o hanes yr ardal.

Uchafbwynt y daith a Chomin Pontypridd yn gyffredinol yw Maen Chwyf (The Rocking Stones) eiconig Pontypridd, sy'n fan pwysig ar gyfer cyfarfodydd cyhoeddus a seremonïau barddol lleol er 1814. Mae'r ffurfiad cerrig yn cynnwys clogfaen rhewlifol 10,000 mlwydd oed, sy'n waddod o Oes yr Iâ, wedi'i amgylchynu gan Gerrig Gorsedd.  

Mae'r daith 1.6km o hyd yn cychwyn ac yn gorffen ar Hospital Road, ger hen Ysbyty’r Bwthyn Pontypridd. Mae modd cyfuno'r daith yma gydag ymweliad â'r dref - mae Llwybr Llafar Pontypridd yn ffordd wych o ddarganfod rhagor am hanes Pontypridd.

Nodwch fod y daith yn dilyn llwybr tarmac ar y cyfan, ond mae'n bosibl y bydd rhywfaint o dir anwastad, gyda rhai esgyniadau / disgyniadau serth.

Allwedd

  • Addasrwydd: Cerddwyr
  • Pellter: Tua 1 filltir / 1.6 km
  • Graddfa: Hawdd
  • Tirwedd: Tarmac
  • Hyd y daith: Tua awr i gwblhau'r daith

Lawrlwytho:
Llyfryn Taith Comin Pontypridd