Skip to main content

SGWD YR EIRA (a pheli aur) By Nick Hallissey – Country Walking Magazine

 

Posted: 20/11/2018

SGWD YR EIRA (a pheli aur) By Nick Hallissey – Country Walking Magazine

Mae gan lwybrau'r rhaeadr ym Mhontneddfechan elfen ryfeddol o brin: mae'n daith gerdded sy'n well pan fo glaw. Mae'n bwrw ar hyn o bryd, wrth i Tom a minnau grwydro labyrinth 'Gwlad y Rhaeadrau' yn ne Cymru. Mae'r niwl wedi disgyn dros Foel Penderyn ("mae'n olygfa hyfryd, pa pan fydd yno," yn ôl ein tywysydd, Ceri). Mae'r llwybr creigiog at Graig y Ddinas braidd yn llithrig, ac rydyn ni'n falch iawn o'r ganllaw sydd wedi'i osod - er lles diwrnodau fel heddiw, mae'n siwr. Ond, mae'r anghysurau yma'n cael eu cysgodi gan yr holl ddrama y mae Pontneddfechan yn y galw yn ei gynnig. Mae'r coed yn ddwrlawn gan resbiradu'n rhyfeddol.  Mae'r awyr yn oer ac yn feddwol. A'r peth mwyaf amlwg, mae dŵr yn y system afon gymhleth yn codi, chwistrellu, rhuo. Mae'n llawn bywyd drwy bwysedd a phŵer. Dwi eisoes wedi'i gweld yn ystod tywydd braf, ac wrth gwrs, mae'n hyfryd. Ond pan fydd y tywydd yn wlyb, cewch chi'r pleser o weld storm ar y tirwedd. Ac ni alla i ddim ei garu mwy.

Craig-y-Ddinas-South-Wales-Brecon-Beacons

Yn ogystal â hynny, mae yna ryw naws eich bod chi'n rhan o'r hanes, a chwedloniaeth hefyd. Peth amlwg yw'r oesoedd o hanes a threftadaeth sydd ym mhob congl Ynysoedd Prydain. Cewch chi fynd i bron unrhyw fan, a bydd olion traed y Celtiaid, Rhufeiniaid, Llychlynwyr, Normanaidd neu Fictoriaid yno. Ond yma, mae'r straeon yn gwbl eglur, ac yn rhan annatod o'r lle. Mae bron fel petaech chi'n gallu clywed sisial eich rhagflaenwyr, i fyny yn y coed ac i lawr yn y dŵr.

Yn benodol, rydyn ni'n dilyn llwybr bugeiliaid gwartheg, glowyr silica,  gweision powdwr - a thylwyth teg.  Mae cyrff twristiaeth Cymru wedi enwi 2017 yn Flwyddyn Chwedlau Cymru. Dyma gyfle i ddathlu mythos a dirgelion gorffennol hynafol Cymru. Felly, pe bai unrhyw un yn meiddio amau bodolaeth y tylwyth teg yn y lle yma, efallai byddan nhw'n gweld eu hunain yn cael eu herwgipio gan ddynion bach Pontneddfechan - os nad yw draig yn eu bwyta'n gyntaf.

Y chwedl enwocaf yw'r un sy'n gysylltiedig ag Afon Nedd, a chafodd ei hadrodd am y tro cyntaf gan offeiriad ac ysgrifenydd yr 12 ganrif, Gerallt Gymro.  Adroddodd hanes bachgen ysgol o'r enw Elidyr. Roedd e'n ceisio dianc rhag athro creulon, felly cuddiodd ymysg y creigiau ar lan yr afon. Ar ôl cuddio am ddeuddydd, daeth "dau ddyn bach maint corrach" ato. Addawsn nhw i'w dywys i "gwlad sy'n llawn hwyl a chwarae".

Fe'u harweiniodd ef trwy ogof i baradwys gudd o bobl fach ond hardd, gyda gwallt aur sidanaidd. Cafodd Elidyr ei gyflwyno i frenin y byd arall, ac fe dreuliodd ei amser yn chwarae gyda phelen aur gyda mab y brenin.

Yn y pen draw, daeth Elidyr o hyd i'w ffordd yn ôl i'n byd ni, ac wrth iddo gyrraedd adref a chael croeso gan ei fam, dywedodd ei stori wrthi. Aeth yn ôl i'r deyrnas gudd sawl gwaith, ond un diwrnod gofynnodd ei fam iddo ddod â'r belen aur yn ôl, er mwyn iddyn nhw fod yn gyfoethog.

Path-from-Pontneddfechan-to-Sgwd-yr-Elra-South-Wales-Brecon-Beacons

Felly, ar ôl chwarae gyda mab y brenin, rhedodd Eildyr i ffwrdd gyda'r belen. Rhedodd dau ddyn bach ar ei ôl, yr holl ffordd yn ôl i dy ei fam. Wrth iddo groesi'r trothwy, faglodd a gollwng y belen. Gafaelodd y ddau ddyn bach yn y bêl a gadael gan "ddangos pob arwydd o ddirmyg a gwawd i'r bachgen a'i fam.”

Ar ôl iddo floeddio ar ei fam am ei thrachwant, rhedodd ef yn ôl i lan yr afon. Ond, er iddo chwilio am dros flwyddyn, daeth Elidyr ddim o hyd i'r ogof a fyddai'n ei gymryd yn ôl i'r byd arall. (Rwy'n gobeithio nad oeddech chi'n aros am ddiweddglo hapus; yn anaml iawn y bydd hynny'n digwydd mewn chwedlau Cymreig).

Tynnodd y profiad y gwynt o'i hwyliau, felly ymroddodd ei hun i fywyd o sancteiddrwydd. Daeth yn adnabyddus fel yr offeiriad doeth Elidorus. Dim rhyfedd felly, bod Gerallt Gymro - ac yntau'n offeiriad - wedi dewis y stori rybuddiol yma i ddangos peryglon trachwant.

Rydw i wrthi'n meddwl am y stori yma wrth gerdded trwy Gwm Nedd, ac fel y sawl a ddaeth yma cyn fi, rwy'n chwilio am rithyn bach o ogof Elidyr. Mae digon o ogofâu yma, wrth gwrs - a dim un yn fwy trawiadol na blwch llythyrau gwych Porth yr Ogof, ar yr Afon Mellte.  Ac er y gall cerddwyr cyffredinol fynd i mewn i'r ogof (gyda rhywfaint o feiddgarwch), a bod ogofawyr profiadol wedi mynd llawer yn ddyfnach i'r ogof, does neb wedi dod o hyd i un corddyn, a thylwythen teg â gwallt sidanaidd.

Silica-mine-Afon-Mellte-South-Wales-Brecon-Beacons

Fel yr holl ddaeareg doreithiog yma, daw'r ogofau o'r ddawns milflwydd rhwng yr ia a'r dŵr. Yn ystod Oes yr Iâ, cafodd llawr yr ardal ei godi gan rewlifoedd yn cilio, gan ddatgelu haenau o dywodfaen, calchfaen a charreg laid. Yna torrodd yr afonydd drwy'r garreg laid feddal.  Lle bynnag y cyfarfu'r ddwy graig, bydd rhaeadr yn ffurfio: y silff uchaf yw'r tywodfaen caled, sydd wedi gwrthwynebu pwysau di-baid y dŵr yn llawer gwell na'r garreg laid sy'n eistedd islaw.

Does unman yn well i weld brwydr y cerrig yma nag yng Nghraig y Ddinas. Yma, cewch weld penrhyn, rhyw 80 troedfedd i fynny, yn ymwthio allan dros gydlifiad yr Afon Mellte ac Afon Sychryd. Ar ei phen gorllewinol, mae yna weithred ddaearegol anhygoel sydd wedi bod yn boblogaidd ymhlith dringwyr, artistiaid a grwpiau 'Outward
Bound ers blynyddoedd lawer. Y weithred yma, yw wal calchfaen carbonifferaidd enfawr sydd ar ogwydd, sy'n berffaith i'r sawl sy'n hoffi dringo. Mae'n olygfa syfrdanol, hyd yn oed os nad ydych chi'n bwriadu ei ddringo.

Ewch ychydig yn bellach ar hyd y Sychryd ac fe gyrrhaeddwch chi Fwa Maen. Ond, y tro yma, cewch chi weld bryn â phig lle mae'r haenau haenog wedi plygu i fod yn fwa ongl sgwâr - sy'n sail i'r enw.

Yn yr ardal yma o'r cwm, cewch chi weld gweddillion y diwydiant cloddio silica. Mae'r creigiau sydd o amgylch Afon Sychryd wedi'u cyfansoddi o 95% silica pur. Yn ystod y Chwyldro Diwydiannol roedd yr un galw amdano ag aur: roedd ei strwythur cadarn a'i bwynt toddi uchel yn ei wneud e'n berffaith ar gyfer leinio ffwrneisi chwyth. Felly cafodd silica ei gloddio yng Nghraig y Ddinas rhwng canol y deunawfed ganrif hyd at yr 1960 er mwyn creu brics tân ar gyfer ffwrneisi ledled Prydain a'r byd. Hyd yn oed heddiw, y gair Rwsieg ar gyfer bricsen dân yw 'dinas'.

I'w gloddio, roedd angen i beirianwyr chwythu rhannau o'r graig yn ystod y nos, gan adael i'r llwch setlo tan fore. Yna gallai'r cloddwyr rhuthro i mewn a thynnu'r silica pur.  

Ond nid dyna'r unig ddiwydiant yma. Roedd yna weithdy powdwr gwn tua'r gorllewin. O'r 1800au, hwn oedd yn cyflenwi'r diwydiant mwyngloddio ar hyd a lled Cymru â'i ddeunydd ffrwydrol sylfaenol. Roedd y lleoliad yn un helaeth, gan ymestyn bron i ddwy filltir ar draws y cymoedd. Ond roedd yn ddigon anghysbell fel bod modd cynnwys unrhyw ffrwydrad (ac yn ôl pob tebyg roedd yna gryn dipyn ohonyn nhw) yn ddiogel. Defnyddiodd y gweithdy'r dŵr o'r Mellte i roi pŵer i'w gyfarpar, a siarcol o'r coedwigoedd cyfagos fel cynhwysyn allweddol.

Roedd pob elfen o fywyd yn y gwaith wedi'i anelu at atal tanio gwreichion. Gwisgodd y sliperi wedi'u dal at ei gilydd â hoelion pren. Gwisgodd y ceffylau pedolau copr er mwyn peidio â thanio gwreichion wrth dynnu'r wagenni ar hyd y llwybrau. Doedd dim hawl gan fenywod wisgo pinnau gwallt metel.  Roedd waliau wedi'u gwyngalchu fel y byddai unrhyw bowdr gwn rhydd yn ymddangos arno. Byddai wedi bod yn hawdd iawn i farw yma. Heddiw gallwch chi ddilyn y Llwybr Powdwr i weld maint y gweithredoedd i chi'ch hun.

Ond mae atyniad gorau Gwlad y Rhaeadrau eto i'w ddod.  Yn bell tua'r gogledd-ddwyrain, lle mae'r Afon Hepste yn rhuthro i gwrdd â'r Mellte, y mae'r rhaeadr y mae pawb yn sôn amdani:  Sgwd yr Eira. 

Inside-Sgwd-yr-eira-credit-Country-Walking-Magazine-2

 

Efallai eich bod wedi darllen amdani o'r blaen; neu wedi gweld lluniau o'r blaen: Ond ychydig iawn sy'n gallu eich paratoi chi ar gyfer Sgwd yr Eira mewn bywyd go iawn. Gallwch chi ei chlywed cyn i chi ei gweld. Wrth i chi ddod i lawr y llethr ar naill ochr yr afon, fe glywch chi'r rhuo - ynghyd â sŵn y chwerthin ysgrechiog y sawl sy'n ddigon ffodus i fod tu fewn yn barod.

Y tu mewn iddi! Wrth gwrs, dyna yw un o'r pethau mwyaf deniadol am Sgwd yr Eira. Mae'n llen perffaith o ddŵr sy'n disgyn oddi ar yr ymyl calchfaen, wedi'i greu dros filoedd o flynyddoedd i adael balconi y tu ôl i'r rhaeadr.
Felly, mae modd i chi gerdded tu ôl i'r rhaeadr.

Ond nid llwybr ar gyfer y sawl sy'n ceisio cyffro yn unig ydyw; yn y gorffennol dyma oedd yr unig lwybr ymarferol i ffermwyr symud eu gwartheg o borfa i borfa, neu o'r borfa i'r farchnad. Gallwch chi dim ond dychmygu dryswch y buchod a oedd yn cael eu tywys drwy dwnnel o ddŵr; Hwsmonaeth anifeiliaid ar raddfa profiad Alton Towers.

Ac yna down ni'n ôl at y glaw. O'r holl atyniadau yn y cymoedd; y creigiau anhygoel, yr afonydd aflonydd, y chwedlau gwych, y powdwr gwn a'r silica; Sgwd yr Eira sydd wir yn dathlu'r grefft o fod yn wlyb. Os bydd y byd natur yn penderfynu gollwng cawod drom o law yn yr hydref drwy system y Nedd, mae Sgwd yr Eira yn mynd yn fwy, yn uwch, ac yn fwy trawiadol. Ac o ystyried bod rhywfaint o sblasio a chwistrellu yn anochel yma (hyd yn oed ar y diwrnodau mwyaf heulog),  mi fentra' i'ch bod chi wedi dod â chot law a fydd dim ots gennych chi am y lleithder.

 

Inside-Sgwd-yr-Eira-2-credit-Country-Walking-Magazine

Ond po fwyaf y byddai'n meddwl am chwedl Elidyr, po fwyaf y dychwelaf at y disgrifiad hwnnw o'r byd arall: "gwlad sy'n llawn hwyl a chwarae". Mae rhywfaint o ddadl i'w gwneud nad oedd angen i Elidyr fynd i unrhyw le arall erioed. Ar y daith gerdded yma rydw i wedi gwylio plant yn neidio i mewn i byllau naturiol; wedi gweld dringwyr llithro i fyny Craig y Ddinas; bwyta cinio gyda cherddwyr sy'n mwynhau pob munud o'u diwrnod. Yn nes ymlaen, esi i i ymweld â distyllfa Penderyn, lle maen nhw wedi achub y grefft goll o greu chwisgi Cymreig - yn rhannol oherwydd y dŵr anhygoel maen nhw'n ei ddefnyddio. Fe wnes i hyd yn oed weld merch gyda gwallt aur sidanaidd, er mai Ffiniad oedd hi yn y pen draw, a ddim yn fach chwaith. Felly mae'n anodd meddwl am le gwledig sydd â mwy o "hwyl a chwarae" nag yma. Efallai mai dyma'r unig fyd arall sydd ei angen arnoch chi.

Ond yn anffodus, des i ddim o hyd i'r belen aur. Ond bydd rhaid i mi fynd yn ôl i gael chwilio eto. 

Barrels-credit-Penderyn-Distillery

THE FIVE RIVERS

Five rivers piledrive their way through the southern Brecon Beacons to meet here in Pontneddfechan: the Pyrddin, the Nedd Fechan, the Mellte, the Sychryd and the Hepste. The two largest are the Nedd Fechan and the Mellte, and they forge parallel valley systems which the walker can hop between during a single day, using a myriad of enthusiastically waymarked local trails.

The Nedd Fechan has the longest journey; it rises on the slopes of Fan Gyhirych in the lonely acres of Fforest Fawr, then carves its way seven miles south to Pontneddfechan, where it’s joined by the Mellte and its tributaries. Together they form the River Nedd (Neath), which then flows down to the sea at Swansea.

The whole river system plays host to an abundance of wildlife; rare species you might spot are the dipper (likely to be bobbing up and down on the rocks in the middle of the river) and the grey wagtail, who’s likely to be hunting for insects along the banks.

Getting there

Pontneddfechan is in on the A465 between Neath and Merthyr Tidfil. The car park at Dinas Rock is ideal – but it can fill up with climbers’ and walkers’ cars pretty quickly, so try and get there early.

Walk here

A whole range of waymarked trails covers Waterfall Country, but very few of them are long enough to cover all the points of interest. Our 8¾-mile walk covers almost everything except Porth yr Ogof, and you can download it at here.

Where to stay

The three-star Ty Newydd Hotel (01685 813433) is a fine country seat located a mile up the road from Pontneddfechan, offering doubles for £100 per night.

Penderyn---July-2013---Tourism-Area-Shots--2-sm

More information

Gosh, local websites are queuing up to tell you all about this area. A selection includes: www.thevalleys.co.uk (great for general information and walks), And you can find general tourist information on the Rhondda Cynon Taf council website. Finally, visit Penderyn Distillery for more about the wonderful things they do.

Written By: NICK HALLISSEY  
Photos by : TOM BAILEY

Live for the outdoor