Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Prynhawn gwych yn y pwll awyr agored, Lido Ponty - Gan Cardiff Mummy Says

 

Posted: 14/09/2017

Prynhawn gwych yn y pwll awyr agored, Lido Ponty - Gan Cardiff Mummy Says

Am dywydd poeth! Dwi'n siŵr bod plant eraill, yn ogystal â'm plant i, yn cael trafferth yn y gwres yma... felly oes lle gwell i oeri na Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru? Aethon ni i gyd, ar brynhawn  Sadwrn fel rhan o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud  gyda Croeso i RCT dros yr haf, yn hyrwyddo'r atyniadau sy'n addas i'r teulu cyfan yn y sir.

Lido-10sm

Mae rhaid cyfaddef i fi a Dadi Caerdydd deimlo'n ansicr am fynd â thri o blant i bwll awyr agored ar ddiwrnod mor boeth. Roeddwn i'n disgwyl gweld y pwll dan ei sang, ac o ganlyniad, methu â chadw llygad ar fy mhlant. Ond doedd dim byd i boeni amdano! Roedd ein sesiwn am 2.30pm yn llawn - ond does dim modd i fwy na 300 o bobl nofio mewn un sesiwn felly doedd hi ddim yn llawn dop. Roedd hi'n hyfryd ymlacio a sblasio yn y dŵr. Cawson ni lawer o hwyl a doedd hi ddim yn rhy brysur o gwbl, wedi ystyried bod yna 300 o bobl eraill yn nofio ar yr un pryd â ni. (Roedd 300 yno; Gofynnais i dri aelod o staff gwahanol i wneud yn siŵr bod y rhif yn gywir.) 

Mae Lido Ponty wedi'i leoli yng nghanol Parc Coffa Ynysangharad, neu  Barc Ponty fel mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n cyfeirio ato. Cafodd y Lido ei adeiladu  yn 1927 yn wreiddiol a dyna oedd yr ail bwll mwyaf yng Nghymru, ar ôl Cold Knap y Barri (a oedd, gyda llaw, yn rhan fawr o'm magwraeth felly mae'n drueni nad yw e yno rhagor).

Lido-5sm

Yn anffodus daeth yr Adeilad Rhestredig Gradd II yn wag yn 1991 ond yn 2014, arweinodd Cyngor Rhondda Cynon Taf waith adfer gwerth £6.3m ar y Lido â chymorth ariannol y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri a chwmni Cadw. Ail-agorodd Lido Cenedlaethol Cymru fis Awst 2015, yr unig un yng Nghymru. Mae'r canolfan ymwelwyr uwchben y caffi yn dilyn ei hanes o 1927 i'r presennol.

Does dim parcio ar y safle, felly aethon ni i Faes Parcio Goods Yard, tua 10  munud i ffwrdd ar droed a thalon ni £2.60 am y diwrnod. Mae maes parcio Gas Road yn rhatach ac yn agosach, dim ond £1 y diwrnod, ond erbyn i ni gyrraedd roedd e'n llawn. Mae'r holl feysydd parcio ar wefan y Lido. Mae modd cyrraedd y Lido ar drafnidiaeth gyhoeddus hefyd, mae gorsaf fysiau a gorsaf drenau gerllaw.

Cyrhaeddon ni'r pwll tua 2.15pm ac roedd pobl wedi dechrau ciwio. Roedd y staff yn effeithlon, gan groesi enwau'r bobl ar y rhestr a derbyn arian y rheiny oedd wedi dewis i dalu ar y diwrnod, er mwyn i ni fynd i mewn i'r pwll yn syth am 2.30pm.  

Wrth i ni gerdded trwy'r giatiau tro (gwreiddiol, wedi'u hadfer) roedd hi'n teimlo fel gwyliau tramor. Mae digonedd o welyau haul, ystafelloedd newid pren gwreiddiol wedi'u hadfer, cawodydd tu allan (dwym!) a thu mewn, a chaffi ar y safle.  

Roedd fy mhlant yn edrych ymlaen yn fawr felly bant â ni i'r pwll.  

Lido-collage-01

Mae tri phwll yn Lido Ponty - pwll sblash bas tua 30 centimetr o ddyfnder gyda ffynnon ymbarel, roedd fy mhlant yn dwlu arni. Roedd gan rai o'r plant fwcedi a thegannau dŵr. Mae pwll mawr 25 metr, 1 metr o ddyfnder yn yr ochr fas a 2 fetr yn yr ochr ddofn. Pan aethon ni, roedd rhan o'r pwll yma ar gau ar gyfer gweithgareddau dŵr gan gynnwys cychod pedal a phêl gwynt. Roedden ni'n poeni byddai Plentyn Bach yn rhy fach ar gyfer y cychod ond mae rhieni yn cael mynd i mewn i'r dŵr i helpu plant bychain. Ac yn olaf, mae pwll gweithgareddau sydd â chwrs rhwystrau teganau gwynt ar hyd y pwll. Eto, roedd angen rhiant ar Blentyn Bach yn y dŵr i'w helpu fe i groesi'r cwrs ond roedd y ddau arall yn iawn; roedd y plant wrth eu boddau ar y cwrs - aeth y tri ohonyn nhw arno fe tua phum gwaith. 

Lido-7sm

Mae pob un o'r pyllau yn dwym, sy'n wych ac yn golygu bod modd mynd yno ar ddiwrnod cymylog. Mewn gwirionedd, dwi'n adnabod pobl sy wedi mynd ar ddiwrnodau llwyd a chymylog, wedi gwisgo eu gwisgoedd nofio ac wedi manteisio ar y pyllau heb lawer o bobl yno.

Roedd y Lido am ddim ond mae rhaid i oedolion dalu £1, ond mae plant yn nofio am ddim. Mae band llawes gweithgareddau ar gyfer y teganau gwynt a chychod yn costio £2.50 y plentyn.  

Mae nifer o sesiynau bob dydd, mae pob un yn para dwy awr, gyda 90 munud yn y pwll a 30 munud i newid eich dillad wrth i'r pwll gael ei glanhau. Bydden ni, yn amlwg, wedi mwynhau mwy o amser yn y pwll - ond mae'r slotiau  yn deg er mwyn i gymaint o bobl ag sy'n bosibl fanteisio ar y pwll a'r cyfleusterau.

Mae dau draean o docynnau ar gael ar-lein hyd at saith diwrnod ymlaen llaw ac mae'r gweddill ar gael wrth y drws, ond y cyntaf i'r felin fydd hi. 

Mae'n haws i ni fynd i'r pwll fel teulu o 5, dau oedolyn a thri o blant, gan fod ein plant yn 7, 5 a 3 oed. Doedd dim modd i ni fynd y llynedd oherwydd y cymarebau. Rhaid cael un oedolyn i bob plentyn dan 5 oed; un oedolyn i ddau blentyn rhwng 5 a 8 oed, a does dim rhaid cael oedolyn i blant 8-15 oed os ydyn nhw'n gallu nofio'n dda. Bydd rhaid i fi aros am gwpl o flynyddoedd cyn  i fi gael mynd yno gyda'r tri ar fy mhen fy hun! Roedd diogelwch yn bwysig yn y pwll ac roedden ni'n hapus gyda'r nifer o achubwyr bywydau ar ddyletswydd. Cyfrifon ni o leiaf 10.

Ar ôl nofio, aethon ni i Chwarae'r Lido, y maes chwarae ar bwys y pwll. Mae'n enfawr gydag ardaloedd gwahanol ar gyfer oedrannau gwahanol, gan gynnwys fframiau dringo a sleidiau, trên pren a weiren wib. Mae llawr tywod yn yr ardal i blant bach felly mae bwcedi a rhawiau yn syniad da. 

Lido-Play-2sm

Mae rhaid i fi gyfaddef bod y parc yn brysur iawn a gan fod yr ardal chwarae mor fawr, byddwn i wedi cael trafferth wrth ddod o hyd i'r tri phlentyn heb help Dadi Caerdydd. Roedd hi'n fwy tawel pan aethon ni yn ôl tua 7pm.

 

Lido-Play-1sm

Roedden ni wedi bwriadu mynd adre am de ond roedd y tywydd mor braf, penderfynon ni  fynd i Tesco yng nghanol tref Pontypridd, dim ond 5-10 munud i ffwrdd ar droed, i brynu brechdanau, salad a diodydd. Fel mae'n digwydd, roedd band teyrnged Beatles yn chwarae ar safle seindorf y parc ac roedd yn wych.

Rydyn ni i gyd yn dwlu ar The Beatles yn ein tŷ ni felly roedden ni wrth ein boddau yn dawnsio a chanu rhai o'u caneuon  enwog. Roedd hyn yn goron ar ddiwrnod gwych yn y pwll yn mwynhau'r haul, roedd hi fel mynd ar wyliau.  Cyfle i ddianc am gwpl o oriau. Byddwn ni'n mynd yn ôl heb os!

Lido Ponty, Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd CF37 4PE.