Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Prynhawn ym Mharc Gwledig Barry Sidings, Pontypridd - Gan Cardiff Mummy Says

 

Posted: 18/09/2017

Prynhawn ym Mharc Gwledig Barry Sidings, Pontypridd - Gan Cardiff Mummy Says

Dwi'n edrych ymlaen at wyliau'r haf a chael llawer o anturiaethau gyda'm tri phlentyn. Dwi'n colli Little Miss E, 7½ oed a Little Man O, 5¾ oed, yn ystod tymor yr ysgol a dwi methu aros i ni fod gyda'n gilydd eto. Fodd bynnag, mae'r amser un-i-un dwi'n ei gael gyda'm Bachgen Lleiaf (dwi ddim yn meddwl fy mod i'n gallu'i alw fe'n 'Blentyn Bach' nawr ei fod e'n 3¼ oed) tra bod y ddau hynaf yn yr ysgol yn arbennig iawn. Dwi wedi bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfle i fynd ar deithiau gyda fe yn ystod y dydd cyn i'r gwyliau ddechrau.

Barry-Sidings-Park-2sm

Mae'r tywydd wedi bod yn siomedig yr wythnos yma ond ar brynhawn Llun dechreuodd yr haul wenu, felly bant â ni i Barc Gwledig Barry Sidings ym Mhontypridd.

Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Croeso i RCT yn hyrwyddo atyniadau sy'n addas i'r teulu cyfan yn yr ardal ac ar ôl mynd i Lido Ponty/Parc Ynysangharad ac amgueddfa glofeydd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Parc Gwledig Barry Sidings oedd y dewis naturiol nesaf. Dwi wedi clywed oddi wrth nifer o bobl pa mor hardd mae'r parc. A dydyn nhw ddim yn anghywir. Roedd y gwyrddlesni o'ch cwmpas chi, o'r glaswellt, coed a mynyddoedd yn anhygoel.

Mae’r parc ar waelod Mynydd Gelliwion ac mae modd ei gyrraedd o'r A4058 ger Trehafod, tua'r gogledd-orllewin o Bontypridd. Mae rhaid i fi gyfaddef i fi yrru heibio mynedfa'r parc gan ei bod hi'n droad bach, felly cofiwch droi.

Barry-Sidings-Park-3sm

Mae'r parc gyferbyn â Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda, cewch chi ymweld â'r ddau mewn un diwrnod. Mewn gwirionedd, mae enw'r Parc yn dod o'i berthynas â'r hen bwll glo, cafodd y parc ei adeiladu ar y cilffyrdd gwreiddiol lle cafodd y glo ei ddosbarthu o Lofa Lewis Merthyr (sy bellach yn Barc Treftadaeth Cwm Rhondda) i ddociau'r Barri, yna ledled y byd. Gan mai'r Barri yw fy ardal enedigol, roeddwn i wrth fy modd gyda'r cysylltiad yma.

Mae maes parcio rhesymol fawr am ddim a chaffi sy'n gwerthu diodydd poeth ac oer a byrbrydau, yn ogystal ag ategolion beicio o gwmni The Bicycle Doctor, sy'n gyfrifol dros ddatblygu'r cyfleusterau beicio yn y parc.

Er bod modd cyrraedd y maes chwarae yn uniongyrchol o'r caffi a'r maes parcio, roedd Bachgen Lleiaf ar ei sgwter felly cerddon ni ar y llwybr ochr yn ochr â'r pwll hwyaid, sy'n boblogaidd gydag ymwelwyr. Cwrddon ni â theulu arall a ddangosodd fadfallod yn y dŵr i ni. Gwelon ni bedair hwyaden yn nofio ar y pwll, pilipalod yn y cyrs, a gwiwer yn y goedwig.

Wedi ystyried y ffaith i'r parc gael ei ddatblygu yn y 1980au, roedd ardal y pwll yn hyfryd ac yn llonydd ac roedd yr ardal gyfan yn wyrdd ac yn ffres.

 Barry-Sidings-Park-6sm

Roedd y Bachgen Lleiaf, yn amlwg, yn awyddus i fynd i'r maes chwarae. Mae maint y parc yn rhesymol, gyda gweithgareddau gwahanol ar gyfer oedrannau gwahanol, er mai plant dan 8 oed yw'r oedran mwyaf addas. Uchafbwyntiau'r Bachgen Lleiaf oedd y siglenni crwn a'r ffrâm ddringo gyda sleidiau, ond mae gan y parc siglenni i fabanod, sleid mwy, rhwyd ddringo a throgylch.

Pe bai mwy o amser gyda ni, byddwn i wedi mwynhau archwilio yn y goedwig. Mae llwybr 1.5 milltir cylchol ar yr hen dramffordd, ac mae'r parc hefyd yn rhan o Lwybr Cerdded Cylchol Pontypridd, taith gerdded 12 milltir.

Roedd fy mhlant hynaf yn dwlu ar y lluniau ddangosais iddyn nhw o daith eu brawd, felly rydyn ni wedi penderfynu mynd yn ôl dros yr haf. Bydd yn rhoi cyfle i fi ddod o hyd i'r rhaeadrau yn y goedwig. Dwi wedi dod ar draws lluniau hyfryd wrth wneud ymchwil ar y parc, a hoffwn i weld y golygfeydd trwy fy llygaid fy hun.

Barry-Sidings-Park-5sm