Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

48 awr ym Mhontypridd

 

Posted: 07/06/2018

48 awr ym Mhontypridd

Rydw i wedi byw mewn pentref yn union hanner ffordd rhwng Ponty a Chaerdydd ers 15 mlynedd.  I'm cywilydd, rydw i bob amser yn troi i'r dde ar yr A470 tuag at oleuadau llachar y brif ddinas ar gyfer fy holl anghenion siopa/bwyta allan/adloniant yn hytrach na throi i'r chwith i Bontypridd.  Roeddwn i'n meddwl "sut allai tref fach gymharu â phrifddinas Cymru?" 

pontypriddrr

Y penwythnos diwethaf, ymgymerais â'r her gan Ymweld â RhCT i dreulio penwythnos CYFAN ym Mhonty.  Fe wnes i rywfaint o waith ymchwil, gwnes i gynlluniau, paratois fy ddau blentyn naw oed a dyma sut brofiad gawsom ni....

Gwawriodd fore Sadwrn yn heulog braf, felly gwisgais fy esgidiau rhedeg ac es i Barc Coffa Ynysangharad i gymryd rhan yn y Parkrun wythnosol.  Roedd hi'n hawdd ac yn rhad i barcio - £1 am ddwy awr.  (Meddyliais Ponty 1 - Caerdydd 0).  Mae llawer o feysydd parcio ond dewisais faes parcio Gas Road gan ei fod o fewn taith gerdded fer drwy ganol y dref i'r parc.  Mae dros 300 o bobl yn cymryd rhan yn y Parkrun yma ond mae'r parc yn brydferth iawn ac yn enfawr felly doedd ddim yn teimlo'n orlawn o gwbl.  Roedd pawb yn gyfeillgar iawn - dyma un o'r achlysuron rhedeg mwyaf croesawgar ac un o'r rhai sydd wedi'u trefnu orau rydw i erioed wedi mynychu.  Wedyn ges i goffi angenrheidiol ychydig y tu allan i giatiau'r parc mewn siop goffi annibynnol newydd

chainhouse

Wedi taith gyflym adref i gael cawod roedden ni'n ôl i Bontypridd ar gyfer yr Ŵyl Lyfrau Plant Pontypridd gyntaf erioed.  Ar y ffordd i'r ŵyl, aethon ni i'r farchnad dan do sydd wedi bod yng nghalon y dref ers yr 1870au.  Roedd fy merch, sy'n llysieuwr, yn falch o ddod o hyd i 'Soul Spice ' - stondin fwyd sy'n gwerthu bwyd sy'n addas ar gyfer Llysieuwyr a Figans.  Eisteddon ni ar fainc i rannu bocs cyri a lapiad falafel - mae'r bwyd yn cael ei baratoi yn y fan a'r lle, mae'n ffres iawn ac yn hynod o flasus.

soulspice

Roedd

i mi lusgo fy merch arall o'r siop deganau (a'i hamrywiaeth eang o'lysnafedd') ac fe wnaeth hi fwynhau pastai stêc enfawr o un o'r nifer fawr o stondinau bwyd.  Aethon ni heibio i siop goffi gyda chacennau deniadol ond roedden ni'n brin o amser, felly aethon ni yn ein blaenau drwy'r dref i Amgueddfa Pontypridd ar gyfer ein sesiwn yn yr ŵyl lyfrau. 

museum arial

Ar ôl mynychu Gŵyl Llên Plant Caerdydd dros yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, doeddwn ni ddim yn siŵr beth i'w ddisgwyl o'r fersiwn llawer llai yma.  Roedden ni wedi archebu tocynnau ar gyfer cyflwyniad gan Eloise Williams ac roedd hi'n ardderchog.  Roedd y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn ddifyr. Fe wnaethon ni i gyd adael gyda llyfrau newydd a gwên fawr. 

Parhaodd ein hantur ym Mhonty'r diwrnod nesaf wrth i ni fynd yn ôl i Barc Coffa Ynysangharad ar gyfer y Parkrun cyntaf i blant.  Es i'n ôl i'r un maes parcio i ddarganfod bod parcio am ddim ar ddydd Sul - bonws!  Mae'r ras 2 gilomedr yn dechrau wrth y bandstand ac mae'n ffordd ardderchog i ddechrau bore Sul.

funrun

Wedyn

wnaethon ni gerdded y pellter bach o'r bandstand i Chwarae'r Lido - maes chwarae antur wych i blant o bob oedran.  Eisteddais yn yr haul wrth i'r merched ddringo popeth gyda'i ffrindiau Parkrun newydd.

 lido

Nesaf aethon ni i Lido Ponty – Lido Cenedlaethol Cymru.  Mae'r Lido, sydd hefyd ym Mharc Coffa Ynysangharad, yn adeilad rhestredig gradd II sydd wedi'i adnewyddu'n berffaith. Mae plant yn cael nofio am ddim ac mae'r pris ond yn £2 ar gyfer oedolion.  Roeddwn i wedi archebu lle ar-lein a thalu £2.50 ychwanegol ar gyfer bandiau gweithgaredd i'r plant er mwyn iddyn nhw fynd ar y teganau gwynt, cychod llaw a 'zorbs' dŵr.  Parhaodd ein sesiwn am awr a hanner ac fe wnaeth y pyllau wedi'u gwresogi ynghyd â'r haul wneud i ni deimlo fel ein bod mewn gwlad dramor. 

Fe wnaethon ni dreulio gweddill y diwrnod yn yr haul gyda phicnic yn y parc.  Ar y cyfan, roedd yn benwythnos prysur, llawn gweithgareddau ac mae'n gywilydd arna'i ei fod wedi cymryd cymaint o amser i mi archwilio Ponty.  Mae'r plant wedi gofyn i ddychwelyd i'r Lido a'r parc ac rydyn ni'n gwneud y Parkrun bob wythnos bellach.  Rydw i eisiau archwilio rhagor ac rydw i'n cynllunio diwrnod allan arall i gynnwys y Comin gyda'i Faen Chwyf a'r cylch cerrig dirgel tebyg i Gôr y Cewri. Byddwn i'n cyfuno hyn gydag ymweliad i Prince's Bakery ac efallai ymweliad â Thaith Pyllau Glo Cymru.  Mae'n saff dweud y byddwn yn troi i'r chwith ar yr A470 yn amlach yn y dyfodol!

Sunrise - Pontypridd - Rocking Stones - Pontypridd Common-5