Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

10 rheswm pam mae ANGEN i chi fynd i Ŵyl Aberdâr

 

Posted: 23/04/2019

10 rheswm pam mae ANGEN i chi fynd i Ŵyl Aberdâr

 

 

1. Y Lleoliad!

Mae Parc Aberdâr yn lleoliad prydferth a, hyd yn oed pan dydy e ddim yn llawn o atyniadau'r ŵyl, mae digon o bethau i'w gwneud. Mae llyn cychod gyda chychod padlo, caffi, maes chwarae antur ac erwau o dir i'w crwydro.

aberdare park

 

 

 

2. Mae am ddim!

Allan o'r holl atyniadau, y cwbl sydd rhaid talu amdanyn nhw yw reidiau'r ffair, bwyd a diod ac unrhyw anrhegion hoffech chi eu prynu!

Untitled design (4)

 

 

3. Bydd yr ŵyl yn cynnig trît i'r rhai sydd â diddordeb mewn deinosoriaid.

'Little Al' yw'r deinosor mecanyddol mwyaf yn y DU - mae'n cerdded ac yn rhuo yn union fel deinosor go iawn. Bydd yn dod yng nghwmni ei gyfeillion cyn-hanesyddol wedi'u hanimeiddio a'u trafodwr arbenigol sydd â llawer o wybodaeth, ffeithiau a straeon am ddeinosoriaid, yn ogystal ag wyau, esgyrn a rhagor.

Untitled design (5)

 

 

4. Sioe Sooty byw

Mae Sooty, Sweep a Sue wedi bod yn ffefrynnau gan blant am genedlaethau. Dyma'ch cyfle i'w gweld yn fyw ar y llwyfan ym Mharc Aberdâr. Cewch lawer o hwyl ac mae nifer o berfformiadau drwy gydol y dydd.

sooty 2

 

 

5. Trên Tir

Cewch gyfle i werthfawrogi prydferthwch y parc ar y trên bach, sydd am ddim, fydd yn mynd â chi am daith o amgylch llwybrau'r Parc Fictoraidd.

.

P47505 - Aberdare Festival 2018 - GDPR Approved Images-4

 

 

 

6. Hwyl gyda Gwyddoniaeth

Bydd 'Letterbox Lab' yn dod ag arbrofion syfrdanol i'r parc ar gyfer gwyddonwyr ifainc - llysnafedd llithrig, pethau sy'n disgleirio yn y tywyllwch, lliwiau byrlymog....cymerwch ran!

57303452_1986973204943297_515611017158328320_n

 

 

 

7. Ymunwch â'r Syrcas!

Dyma gyfle i wisgo'ch het 'Greatest Showman' a rhoi cynnig ar jyglo, troelli plât, diablo a rhagor. 

 

 

8. Cerddoriaeth Fyw

Bydd perfformiadau'n cael eu cynnal ar amserlen sydd wedi'i chynllunio fel bod modd i chi weld yr holl berfformwyr. Bydd perfformwyr teyrnged Pink a Bruno Mars a Gary Barlow perfformio ar y llwyfan a bydd cyflwynwyr Capital FM yn eich diddanu rhwng y perfformwyr.

live music

 

 

 

9. Cwrdd â'r Anifeiliaid

Bydd dau barth gwahanol ar gyfer anifeiliaid eleni. Bydd un wedi'i lenwi â chywion, cwningod, moch cwta y bydd modd eu dal a geifr, tyrcwn ac anifeiliaid fferm eraill i'w cyfarfod. Bydd y parth arall yn cynnwys tarantulas, chwilod, swricatiaid (meerkats) a chreaduriaid egsotig eraill (byddwch chi'n gwybod ble i ddod o hyd iddyn nhw!)

 

 

10. Dyma gyfle i arddangos y gorau sydd gan Rondda Cynon Taf i'w gynnig

Mae Gŵyl Aberdâr 2019 yn cael ei noddi gan ffefrynnau'r teulu Penaluna's Famous Fish and Chips. Er dydyn ni ddim ar yr arfordir (mae'n bosibl ei weld o'r fan yma ar ddiwrnod clir), mae rhai o'r pysgod a sglodion gorau yn y DU ar gael yn RhCT - fel y mae'r silff dlysau yn siop sglodion Penaluna'n dangos. Rhowch gynnig ar eu bwyd blasus yn yr ŵyl neu, ewch am dro ychydig filltiroedd i'r gogledd i Hirwaun, ar odre Bannau Brycheiniog, a chael eich pysgod a'ch sglodion o siop Penaluna. Cewch fwyta'ch pysgod a sglodion ar gopa Mynydd y Rhigos wrth fwynhau golygfeydd godidog. Os hoffech chi aros ychydig yn hirach, bydd modd i chi wersylla ym Mharc Gwledig Cwm Dâr gerllaw neu ymweld â gwesty lleol a threulio amser yn archwilio Lido Ponty, Taith Pyllau Glo Cymru a'n mannau agored hyfryd.

 best of rct

 Find out more, get show timetables, directions and more