Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Nos Galan Need to Knows

 

Posted: 25/11/2019

Nos Galan Need to Knows

Rydyn ni wedi hen ddechrau edrych ymlaen yn arw at un o'r nosweithiau mwyaf cyffrous yn y calendr chwaraeon, ac mae Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o'i chynnal!

Mae miloedd o redwyr a gwylwyr yn dod o bell ac agos i Aberpennar am noson chwedlonol (ac arobryn) Rasys Nos Galan.

Wedi'u hysbrydoli gan Guto Nyth Brân, un o'r dynion cyflymaf yn y byd, mae'r rasys yn gyfle i redwyr o bob gallu ac o bob oed brofi'u hunain. 

Yn ogystal, mae'n un o'r profiadau Nos Galan gorau yn yr ardal, gyda hwyl i'r teulu cyfan, tân gwyllt a naws anhygoel. 

Dyma 10 peth sydd angen i chi ei wybod am Nos Galan 2019

 

1. Y rhedwr – neu redwyr – enwog dirgel...? Wedi'i gadarnhau ac fe fydd yn cael ei ddatgelu ar y noson! Pwy fydd e neu hi?

NGmystery runner

2. Bydd tân gwyllt eleni eto – gan ddod â 2019 i ben gyda bang!

fireworks

3. Mwynhewch fwyd neu sbin fach ar reidiau'r ffair.

4. Enillwch wobr yn y ras hwyl am y wisg ffansi orau! Mae'r Beatles, Where's Wally a llawer yn rhagor wedi'i rhedeg. Beth amdanoch chi? (Cofiwch, rydyn ni ond yn caniatáu gwisgoedd mae modd eu "gwisgo". Does dim modd i chi gystadlu gyda chert/troli/berfa ac ati!)

fancy

5. Mae cyfle i'r plant bach redeg hefyd – mae pedwar categori oedran yn y rasys i blant.

younth

6. Rydyn ni wedi gwahanu rasys elitaidd dynion a menywod eleni. Mae hyn yn golygu bod llai o redwyr ar y llwybr, gan gynnig profiad gwell i bawb.

menwomen

7. Bydd yna fedalau, crysau-T a bagiau nwyddau i bob un sy'n cystadlu.

8. Dyw llwybr y ras ddim wedi newid ers y llynedd. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo yn Aberpennar ar hyn o bryd o ganlyniad i'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm – ond mae llwybr y ras yn aros yr union yr un fath â 2018.

Race Route spread 2019

9. Rydyn ni'n dathlu bywyd y dyn ei hun, sef Guto Nyth Brân, eleni eto. Mae cerflun ohono yng nghanol tref Aberpennar a bydd torch yn cael ei gosod wrth ei fedd, yn Eglwys San Gwynno.

guto

10. Mae'n achlysur teuluol i bawb, ond yn arbennig i un o'r trefnwyr eleni. Rydyn ni'n talu teyrnged i sylfaenydd y ras, Bernard Baldwin OBE, a fu farw yn 2017. Rydyn ni hefyd yn diolch i'w ferch, Alison, am ddod yn Noddwr Anrhydeddus Rasys Nos Galan.

family