Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Cegaid o Fwyd Cymru – nid ar gyfer plant yn unig

 

Posted: 31/07/2019

Cegaid o Fwyd Cymru – nid ar gyfer plant yn unig

Bydd Cegaid o Fwyd Cymru yn dychwelyd i Barc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd ar 3-4 Awst.


Mae llawer o bobl o'r farn bod yr achlysur, gyda'r lamas sy'n rasio, arddangosfeydd campau BMX, parkour, ffair adloniant ac anifeiliaid fferm ar gyfer plant yn unig - ond dydy hynny ddim yn wir o gwbl.


Dyma ambell syniad o'r hyn y mae modd i'r plant (mawr) ei fwynhau yn ystod gŵyl CFC.


1. Mwynhewch y bar dros dro a'i ardal gardd gwrw. Bydd noddwr yr achlysur, Glamorgan Brewing Company, yn gweini diodydd oer yn ystod yr achlysur. Bydd dewis o lager, cwrw, seidr neu hyd yn oed gin slush, a chyfle i ymlacio yn yr awyr agored a gwrando ar gerddoriaeth fyw.

glamorgan

2. Am damaid? Amdani! P'un a ydych chi'n mwynhau barbeciws traddodiadol neu fwyd stryd ffansi o Feneswela, cyffug â blas sbeis o India, ffrwythau a llysiau organig, pizza, caws neu olewydd, mae llwyth ar y fwydlen.

food

3. Dewch i gael syniadau am brydau bwyd. Hawdd yw creu prydau bwyd syml a blasus y bydd y teulu cyfan yn eu mwynhau yn ôl Geoff Tookey. Bydd e'n cynnal arddangosiadau coginio ar gyfer amrywiaeth o brydau yn ystod y dydd Sadwrn a'r dydd Sul.

Big Bite 2018 - Ynysangharad Park - Food Fayre - GDPR Approved- (199)


4. Blasu blasus! Gin â blas? Gwin a seidr lleol - mwynhewch y cyfan yng Nghegaid o Fwyd Cymru. Ond cofiwch, does dim hawl gennych chi yfed yr alcohol rydych chi wedi'i brynu wrth y stondinau unrhyw le yn y parc. Cewch chi ddim ond yfed y diodydd rydych chi'n eu prynu gan Glamorgan Brewing Company yn ardal y bar - diolch!

taste

5. Yr hufen ar y gacen. Bydd y cystadleuydd Great British Bake Off, Jon Jenkins, yn dangos sut i wneud cacennau a'u haddurno drwy gydol yr ŵyl.

54728183_404543943695520_58613538947596288_n

 

6. Rhowch gynnig ar bethau newydd! Mae Cegaid o Fwyd Cymru yn ddathliad o fywyd yn RhCT, ac mae yna gaws lleol, cyffug, pice ar y maen, hufen iâ, cig a llawer yn rhagor i'w fwynhau. 

Big Bite 2018 - Ynysangharad Park - Food Fayre - GDPR Approved- (92)


7. Porwch gelf a chrefftau unigryw. Bydd parth crefftau, lle bydd modd i chi bori a phrynu amrywiaeth o eitemau gan rai o drigolion mwyaf crefftus RhCT!

Big Bite 2018 - Ynysangharad Park - Food Fayre - GDPR Approved- (112)

8 Cofiwch - does neb yn rhy hen i gefnogi lama sy'n rasio, neu freuddwydio am fod yn Evil Knevil wrth wylio'r campau BMX, neu hyd yn oed mynd ar reid yn y ffair adloniant!

never too old