Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

'Gwyliau Gartref' i'r teulu cyfan

 

Posted: 18/08/2020

'Gwyliau Gartref' i'r teulu cyfan

Ydych chi wedi bod i ardal Rhondda Cynon Taf? Hanner awr o brifddinas Cymru, Caerdydd, ac yng nghesail Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae yna olygfeydd godidog a gweithgareddau unigryw i'r teulu cyfan yn Rhondda Cynon Taf.

Ydych chi'n awyddus i grwydro? Ewch i weld ein mynyddoedd neu'n parciau gwledig. Beth am roi cynnig ar ddringo i gopa Pen-pych?  O'r copa, mae modd i chi weld rhaeadrau hardd a golygfeydd godidog, ac mae digon o feinciau picnic ar hyd y ffordd i chi gael hoe fach a stopio i werthfawrogi'r olygfa. Rhagor o wybodaeth am y llwybr yma

Graigwen - Rhondda Valley - Bluebells - Buttercups - View-20

Dafliad carreg o Ben-pych mae Treorci, tref a enillodd Gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn Prydain yn 2019.  Yma, mae boutiques annibynnol a digon o gaffis a bwytai gyda bwydlenni o gynhyrchion lleol a phrydau Cymreig traddodiadol (a phitsas ffwrn dân i'r plant!) Am ragor o wybodaeth, ewch i www.visittreorchy.co.uk.

treorchy family

Eisiau chwa o awyr iach, ond ddim eto'n barod i ddringo mynydd? Ewch am dro i un o'n Parciau Gwledig. 

 

Ger Aberdâr - tref sy'n enwog am ei thirwedd garw, trawiadol - mae dau barc ar eich cyfer chi. Crwydrwch o amgylch y llyn ym Mharc Aberdâr ac ewch i roi cynnig ar y maes chwarae.  Mae croeso cynnes iawn i gŵn hefyd!

Barry Siding - Flossy-1

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn safle Porth Darganfod ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd. Golyga hynny bod llawer o fuddsoddi wedi arwain at greu llawer o gyfleusterau newydd i'r teulu cyfan. 

Mae'r erwau maith o dir gwledig gogoneddus bellach yn gartref i Faes Chwarae Antur newydd, sy'n cynnwys Gwifren Wib a chylchdro mae modd i'r rhai sydd mewn cadeiriau olwyn ei defnyddio.

Bydd llwybrau beicio sy'n addas ar gyfer y teulu cyfan, trac beiciau pwmp a llety newydd hefyd yn agor yn y Parc Gwledig cyn bo hir - heb os, bydd yn ganolfan wych ar gyfer gweithgareddau i'r teulu.  Mae Canolfan Farchogaeth Green Meadow gerllaw hefyd yn cynnig gwersi marchogaeth a theithiau oddi ar y ffordd i farchogion profiadol.

DVCP

Ym Mharc Gwledig Barry Sidings ger tref farchnad Pontypridd, mae modd i chi logi beiciau ac mae modd i blant ddefnyddio'r traciau beiciau pwmp, chwarae yn y maes chwarae, mwynhau picnic neu fynd i gaffi'r parc i fwynhau ysgytlaeth... neu beth am fynd i nofio yn y llyn? 

Barry Sidings - Ducks - Playground - Bike Track - Cafe - August 2018 - GDPR Approved-42

 

Yng nghalon Pontypridd mae Parc Coffa Ynysangharad, safle arall o blith Pyrth Darganfod Parc Rhanbarthol y Cymoedd. Mae yno faes chwarae antur ac erwau o dir agored i blant.  Mae'r parc hefyd yn gartref i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty. Mae'r atyniad hynod boblogaidd yma ar gau ar hyn o bryd, ond bydd yn ailagor yn 2021. 

Ewch i un o fwytai niferus y dref i wledda (mae tafellu cwstard Prince's Café wedi bod yn hynod boblogaidd ers canrif a rhagor) ac mae'r Farchnad yn cynnig pob dim, gan gynnwys pice ar y maen cartref a chyrris Figan.

lidoplaypan

 

Mae Parc Gwledig Cwm Clydach yn hafan wledig, gyda hwyaid a gwyddau i'w bwydo, lle i drochi traed yn y llyn, cerrig i neidio drostyn nhw a digon o le i feicio, hedfan barcud neu roi cynnig ar unrhyw beth sy'n mynd â'ch bryd chi.

clydach

 

Beth os daw'r glaw? Wel, mae gyda ni nifer o atyniadau dan do yn Rhondda Cynon Taf.  Maen nhw wedi ennill gwobrau lu, maen nhw'n rhyngweithiol ac maen nhw'n addas i'r teulu cyfan!

 

Prynwch docyn ar gyfer Taith yr Aur Du yn rhan o Daith Pyllau Glo Cymru a dilyn eich tywysydd, cyn-löwr, wrth iddyn nhw rannu hanesion eu bywydau yn y pyllau glo gan fentro dan y ddaear i chi weld dros eich hun sut brofiad yw bod ym mhyllau glo Cymoedd enwog y Rhondda.

Mae'r arddangosfeydd rhyngweithiol, caffi a siopau siocled a chrefftau i gyd yn sicrhau diwrnod allan i'r brenin.

Rhagor o wybodaeth yma

wmefamily

 

Ydych chi wedi pendroni o ble mae'r darnau arian yn eich poced wedi dod?  Mae'r Bathdy Brenhinol yma yn Rhondda Cynon Taf, ger tref Llantrisant. 

 

Mae Taith y Bathdy Brenhinol yn croesawu ymwelwyr o bedwar ban byd - gan gynnwys arth enwog o Beriw a phâr digon doniol o Fryste! Archebwch docyn yma, a byddwch chi'n llythrennol yn gweld sut mae arian yn cael ei greu.

Bydd angen rhywle arnoch chi i aros ar ôl treulio'r diwrnod yn crwydro, felly dyma ambell westy:

Mae gan Westy'r Parc Treftadaeth ystafelloedd i deuluoedd ac mae wedi'i leoli drws nesaf i Daith Pyllau Glo Cymru.

Os oes yn well gyda chi lety hunan-arlwyo, rhowch gynnig ar 266 Heart of the Valleys yn Aberdâr neu ewch i Fwthyn Gwyliau Llantrisant.

Rhagor o wybodaeth am lety amrywiol yma

Dewch i fwynhau pob dim sydd gan Rondda Cynon Taf i'w gynnig.