Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Chwilio am antur? Dewch i Rondda Cynon Taf

 

Posted: 18/08/2020

Chwilio am antur? Dewch i Rondda Cynon Taf

Mae Cymoedd trawiadol De Cymru yn gefnlen berffaith ar gyfer antur awyr agored. Beiciwch neu dewch i ddringo tirweddau anhygoel Rhondda Cynon Taf, a phrofwch y bwydydd a'r diodydd gorau, yn y cwmni gorau.

 

Os ydych chi'n hoffi mynd i gerdded, mae modd i chi aros am wythnosau lu heb ddiflasu.  Rhowch gynnig ar Lwybr Cylchol Pontypridd - 12 milltir o gefn gwlad trawiadol sy'n cynnwys golygfeydd panoramig o'r Cymoedd. Mae modd i chi weld Comin Pontypridd a'r Maen Chwyf enwog. 

Sunrise - pontypridd - Rocking Stones - Pontypridd Common-20-7

Mae Rollercoaster Cwm Rhondda yn llwybr bron i 30 milltir o hyd ac mae'n eich tywys i fyny, dros ac o amgylch rhai o olygfeydd mwyaf syfrdanol Cymru. 

Mae modd i chi ddringo i gopa'r mynyddoedd, gan gynnwys y Rhigos a Phen-rhys a chrwydro coetiroedd hynafol ac ardaloedd y chwedlau, gan gynnwys Llanwynno a Choed-elái.

 Dewch o hyd i ragor o deithiau cerdded epig yma

Llanwonno -  Rhondda Valley Views-1

 

Mae Parc Gwledig Barry Sidings ger Pontypridd yn llawn llwybrau beiciau sydd wedi denu beicwyr sy'n bencampwyr byd.  Mae yna hefyd fyrgyrs ac ysgytlaethau anhygoel yn y caffi i’ch cadw chi i fynd. 

Barry Sidings Country Park - June 2018-38

Os oes yn well gyda chi deithio ar ddwy olwyn, bydd Parc Gwledig Cwm Dâr yn Aberdâr yn agor llwybrau beicio newydd a llety yn ddiweddarach eleni. Heb os, bydd yn gyrchfan heb ei hail ar gyfer anturiaethwyr!  Dilynwch @VisitRCT ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn dilyn y newyddion diweddaraf am y datblygiadau cyffrous yma!

Lakes - Views - Camping - Walks - Birds - Flowers - DVCP-2

 Mae gan Ganolfan Weithgareddau Dyffryn Taf feiciau cwad ar y safle, cwrs rhwystrau, saethyddiaeth a rhagor. Yn dibynnu ar ba weithgareddau yr hoffech chi eu gwneud, mae modd trefnu pecyn arbennig ar eich cyfer chi. 

Mae hefyd modd mynd ar daith ymhellach i ffwrdd er mwyn mwynhau padl-fyrddio ger yr arfordir neu fynd i ddringo creigiau.

 Mae Rhondda Cynon Taf rhwng siroedd Merthyr Tudful a Chastell-nedd Port Talbot.  Mae Parc Beicio Cymru ym Merthyr Tudful a Pharc Coedwig Afan yng Nghastell-nedd Port Talbot yn cynnig llwybrau eraill i feicwyr mynydd profiadol. Beth am aros yn Rhondda Cynon Taf a theithio o amgylch yr ardal?

adventureepic

 

Mae pob math o lety ar gael yn Rhondda Cynon Taf, ni waeth faint o arian rydych chi am ei wario. Mae hyn yn cynnwys opsiynau hunan arlwyo lle mae modd i chi ddod ynghyd i ymlacio mewn amgylchedd anhygoel, neu westy Gwely a Brecwast os oes angen clamp o frecwast Cymreig arnoch chi cyn dechrau crwydro. Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig ar rywbeth gwbl unigryw, arhoswch yn Hetty'r horsebox ar Birds Farm yn Hirwaun. Neu beth am Fwthyn 266 Heart of the Valleys yn Aberdâr? Mae ystafelloedd crand a bwyd blasus Gwesty Lanelay Hall ger Llantrisant hefyd yn opsiwn os ydych chi'n mwynhau tipyn o foethusrwydd.

 

Ar ôl diwrnod prysur yn crwydro, mae llawer o lefydd braf i chi fwynhau gyda'r nos yn Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi fwynhau bwyd o bob ban byd a morio canu mewn tafarn brysur, neu fynd i le ag adloniant byw.

 

Mae modd i chi wledda yn:

 

Alfred’s Bar & Grill, Pontypridd

 

Mae Alfred's Bar and Grill ym Mhontypridd yn defnyddio cynhwysion o safon uchel, ac mae modd i chi fwynhau pryd o fwyd mewn amgylchedd sy'n ymdebygu i brasseries Efrog Newydd.

The Bunch of Grapes Bar & Grill, Pontypridd

Mae The Bunch of Grapes ym Mhontypridd yn fwyty croesawgar a diymhongar sy'n gweini bwyd Gastropub drwy ddefnyddio cynnyrch tymhorol, ffres gyda phwyslais ar darddiad y bwyd a chynaliadwyedd.  Archebwch fwrdd nawr i osgoi cael eich siomi

Red Lion Inn, Penderyn

Mae'r Red Lion Inn yn dafarn a fu'n lle poblogaidd ymhlith y porthmyn yn y 12fed Ganrif, ac yn fusnes teuluol wedi nythu'n uchel ar fryn â golygfeydd trawiadol o Benderyn a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.  Mae gan y Red Lion hen loriau carreg, tanau agored, cwrw traddodiadol a bwyd tu hwnt o flasus, gyda chynhyrchion tymhorol, lleol.  Ewch amdani!

 

 

*Mae busnesau Rhondda Cynon Taf yn parhau i adfer ac ailagor yn dilyn cyfnod clo Covid-19, felly bydd cyfyngiadau ar waith. Rhaid archebu bwrdd ar gyfer nifer o lefydd, a dim ond ychydig o lefydd fydd ar gael er mwyn sicrhau bod modd i bobl gadw pellter cymdeithasol.