Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Penwythnosau o Grwydro

 

Posted: 18/08/2020

Penwythnosau o Grwydro

Os ydych chi'n hoffi dod o hyd i lefydd newydd ac yn mwynhau penwythnosau (hir!) mewn amgylchedd heddychlon, gyda chyfleusterau siopa, bwyta a digon o gyfle i ymlacio, dewch i ardal Rhondda Cynon Taf!

 

Beth am ddechrau'ch penwythnos drwy fynd am dro neu feicio drwy'r rhan brydferth yma o Gymru? Mae Llwybr Taith Taf yn mynd tua'r gogledd o Gaerdydd ac yn syth drwy galon Rhondda Cynon Taf. Mae modd i chi fwynhau golygfeydd amrywiol, gan gynnwys llwybr hamddenol ger yr afon a golygfeydd agored syfrdanol.

River Taff - Trees - Cows - Walkers - Cyclist-23

 

Ewch am dro drwy'r goedwigaeth hynafol yn Llanwynno a Threherbert er mwyn dod o hyd i raeadrau a chân yr adar. 

Os ydych chi'n awyddus i fynd i siopa, ewch i Dreorci - tref a enillodd gwobr Stryd Fawr y Flwyddyn Prydain.  Mae'r dref yn llawn boutiques unigryw, caffis a bwytai - gyda chroeso cynnes y Cymoedd yn aros amdanoch chi ymhob un ohonyn nhw. 

Ar ben y bryn, mae gan dref Llantrisant hanes cyfoethog a diddorol - daw ddoe a heddiw ynghyd yno!

llantrisantweekends

Mae amrywiaeth o siopau annibynnol, boutiques, tafarndai, caffis a bwytai ar y strydoedd coblog sy'n amgylchynnu Cylch y Teirw. Prynwch anrheg i chi'ch hun neu mwynhewch de prynhawn!

 

Nepell o foethusrwydd y presennol yn Llantrisant, mae cyfle i chi gamu'n ôl mewn amser. Dilynwch Lwybrau Treftadaeth Llantrisant i weld adfeilion y castell,  hen Neuadd y Dref, eglwysi'r dref ac adeiladau eiconig, a dysgwch ragor am hanes brenhinoedd, dynion ecsentrig o Oes Fictoria a rhyfelwyr dewr. 

 

Pe hoffech chi ymlacio mewn steil, mae nifer o westai moethus yn yr ardal, gydag adeiladau hanesyddol wedi'u hadfer yn gelfydd. Mae Gwesty Lanelay Hall a Gwesty Llechwen Hall yn esiamplau gwych o adferiadau moethus.  

stayweekender

Mae modd i chi hefyd drefnu triniaethau spa yng ngwesty Lanelay Hall a Miskin Manor.

61684944_581229335702688_6281505617337122816_n

Ewch i'r Bathdy Brenhinol, ar daith sydd wedi ennill gwobrau, a gweld sut y caiff darnau arian y DU eu creu yn ogystal â dysgu am hanes diddorol y Bathdy Brenhinol mewn arddangosfa ryngweithiol. Mae'n atyniad gwych i oedolion a phlant o bob oed.

 

Mae Taith Pyllau Glo Cymru yn gyfle i chi ddarganfod hanes dramatig Cymoedd y Rhondda a'r rhuthr am lo a ysgogodd y chwyldro diwydiannol byd-eang. Dynion a fu unwaith yn gweithio yn y pyllau glo sy'n mynd â chi ar daith deimladwy drwy fywyd dan y ddaear. Dyma daith sydd wedi ennill gwobrau.

wmeweekend

 

Mae Distyllfa Penderyn ar odre Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac mae'n atyniad arall sy'n cynnig profiad unigryw.  Ewch ar daith a sesiwn flasu i weld sut mae'r dŵr glaw sy'n llifo o fynyddoedd y Cymoedd yn cael ei ddefnyddio i wneud wisgi godidog a gwirodydd eraill sy'n cael eu gwerthu dros y byd i gyd.

Penderyn Distillery 2_RCT

 

Mae'r ddistyllfa o fewn pellter cerdded i dafarn y Red Lion, sydd wedi croesawu ymwelwyr i'r ardal ers canrifoedd.

 

Fel y gallwch chi weld, mae digon yma i wneud eich penwythnos yn un i'w gofio.  Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud felly yw trefnu dyddiad i ymweld â Rhondda Cynon Taf.