Posted: 30/11/2021
Mae rhywbeth at ddant pawb yn Rhondda Cynon Taf.
O brydau cartref blasus sy’n gwneud yn fawr o gynnyrch lleol i fwyd stryd sydd wedi ennill gwobrau a llawer yn rhagor – mae rhywbeth at ddant pawb yn Rhondda Cynon Taf.
Dyma rai o'r bwytai gorau yn ein bwrdeistref sirol ar hyn o bryd!
Janet’s Authentic Northern Chinese Cuisine.
Mae modd dod i hyd i'r bwyty gwych yma ym marchnad hanesyddol Pontypridd. Mae'r bwyty wedi ennill nifer o wobrau gan gynnwys gwobr Bwyd Stryd Gorau yn y DU yn ddiweddar.
Dyma gyfuniad o fwydydd Asiaidd a chroeso Cymreig cynnes.

Loaded Burgers and Fries
Dyma fwyty arall sydd wedi ennill gwobrau, ond mae'r un yma yn ardal Gelli, Rhondda. Mae Loaded Burgers and Fries yn fwyty sy'n ystyriol o'r gymuned LHDTCRh+. Mae elw gwerthiant eu byrgyrs

Black Rock Café ym Mharc Gwledig Cwm Dâr
Mae bob amser yn syniad da mynd i'r parc gwledig i grwydro’r llwybrau cerdded, gwneud defnydd o’r maes chwarae antur, gweld y llynnoedd a defnyddio'r cyfleusterau llogi beiciau.
Mae'r caffi yn gweini ystod enfawr o brydau a byrbrydau gan ddefnyddio'r cynnyrch lleol gorau. Beth am roi cynnig ar y cinio dydd Sul?

Cardiff Arms Bistro, Treorci
Gwesty, bwyty a thafarn – beth arall fyddech chi ei eisiau? Mae'r lleoliad yma'n adnabyddus am y pizzas wedi'u coginio mewn ffwrn goed a bwydydd tapas blasus. Ac mae tân pren ar gyfer y nosweithiau oer.

Bunch of Grapes, Pontypridd
Mae gan y gastropub unigryw yma fwydlen eithriadol ac mae'n drysor lleol gydag ystod o brydau â physgod a chig a phrydau llysieuol, gan gynnwys caws pob Cymreig (mae’n llawer mwy arbennig na chaws ar dost arferol!).

Penaluna’s Famous Fish and Chips, Hirwaun
Mae pysgod a sglodion yn blasu’n well yn yr awyr agored, a hynny gyda golygfa o gopa mynydd. Coeliwch chi ni – ewch i'r siop cludfwyd yma sydd wedi ennill gwobrau.

La Luna, Tonysguboriau
Mwynhewch fwydydd tapas, prydau a choctels yn y bwyty yma, sef yr unig un i ennill Rhosglwm yr AA bob blwyddyn ers 2015. Hefyd, mae mannau bwyta preifat sy'n addas ar gyfer Instagram.

The Rhoswenallt Inn, Aberdâr
Mae'r dafarn gyfeillgar yma dan berchnogaeth cwmni Glamorgan Brewing sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, felly mae'n gwerthu ystod anhygoel o gwrw lleol wedi'u bragu yma yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â phrydau godidog, gan gynnwys clamp o ginio dydd Sul.

Sub Zero Ice Cream Parlour, Penrhiw-fer
Pa bynnag bwyty rydych chi'n ei ddewis, cofiwch beidio â bwyta gormod – rhaid i chi gadw lle ar gyfer rhywbeth melys! Mae Sub Zero yn cynnig dros 60 blas o hufen iâ. Cewch chi hufen iâ mewn côn, mewn twb, ar wafflau, crêpes neu grempogau, neu'n rhan o sundae blasus.

Otley Brewpub and Kitchen, Trefforest
Mae'r gastropub yma'n gweini bwyd stryd blasus, yn ogystal â chwrw wedi'i fragu gan gwmni Mabby Brewing ar y llawr isaf.

The Red Lion, Penderyn
Dyma dafarn porthmyn y 12fed ganrif gyda lloriau carreg, trawstiau a tanau pren cynnes. Mae'n gweini cwrw a wisgi o Ddistyllfa Penderyn sydd yn yr un pentref â'r dafarn. Mae hefyd yn gwerthu pizzas wedi'u coginio mewn ffwrn bren a bwyd stryd yn y maes parcio.

Rhagor o wybodaeth a syniadau am lefydd i fwyta.
Gofyn am e-lyfryn