Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Mwynhewch antur gyda'r teulu yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru

 

Posted: 29/11/2021

Mwynhewch antur gyda'r teulu yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru

Peidiwch â phoeni am y tywydd – canolbwyntiwch ar gael hwyl yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Glaw neu hindda, mae llawer o bethau i'w mwynhau yn y dirwedd hardd yma, a’r cyfan hanner awr yn unig o Gaerdydd mewn car.

Mae gyda ni ddigon o le i ddianc rhag pob dim ac atyniadau i'w mwynhau – gan gynnwys sawl atyniad unigryw.

Er bod pawb yn dweud hyn, mae wir gyda ni rywbeth at ddant pawb!

Zip World Tower

zipfamilyNOV

 

Ewch ar Phoenix, y wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd yn Zip World Tower – profiad perffaith i'r rheiny (7+ oed) sy'n awyddus i deimlo gwefr heb ei hail. Gwibiwch/Hedfanwch dros rai o'r golygfeydd mwyaf hardd yn y rhanbarth.

 Mae gan fwyty Cegin Glo fwyd gwych a golygfeydd fydd yn syfrdanu! Ewch i fwrw golwg ar yr hen eitemau mwyngloddio sy'n nodi pwysigrwydd diwydiannol y safle. Dyma hen safle Glofa'r Tŵr, y lofa a fu’n gweithredu am y cyfnod hiraf yn y DU ac, o bosibl, yn y byd. Mynnwch siocled poeth ar ôl antur gwych yn yr awyr agored.

 

Parc Coffa Ynysangharad.

ywmpfamilyNOV

 

Glaw neu hindda, mae pyllau awyr agored Lido Ponty yn cael eu cynhesu i 27 gradd – mae mor braf nofio mewn dŵr twym. Mae gan Gaffi'r Lido ddewis di-ri o goffi, byrbrydau poeth ac oer a siocled poeth i'ch cadw chi'n gynnes.

Gwisgwch ddillad cynnes ac ewch i grwydro o gwmpas Parc Coffa Ynysangharad. Cofiwch fanteisio ar y man chwarae antur enfawr.

 

Profiad y Bathdy Brenhinol

mintfamilyNOV

 

Peidiwch â cholli cyfle i ymweld â'r Bathdy Brenhinol, boed glaw neu hindda. Bydd y plant wrth eu boddau'n gweld miliynau o bunnoedd mewn darnau arian. Mae rhai'n dyddio'n ôl i'r nawfed ganrif. Yn ogystal â hynny, mae modd gweld car wedi'i wneud gyda cheiniogau. Dysgwch ragor am y trysorau rydyn ni'n gofalu amdanyn nhw a dewch i fathu'ch darn arian eich hun. Cofiwch fynd i'r siop anrhegion hefyd. Pontypridd

Chwedlau ac ysbrydion, cestyll a rhyfelwyr yn Llantrisant 

Ewch yn ôl mewn amser i hen Lantrisant, gydag adfeilion castell a gorffennol diddorol ond gwaedlyd. Dysgwch ragor yn Neuadd y Dref, lle caiff plant ddysgu am ryfelwyr dewr, dreigiau, ysbrydion a chwedlau o'r Oesoedd Canol. Mae gwisgoedd, helfeydd trysor a llawer yn rhagor.

llantfamilyNOV

 

Taith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth, Cwm Rhondda

wmefamilynov

Dysgwch am hanes yr "aur du" yma yng Nghwm Rhondda – ni oedd yn pweru'r byd ar un adeg. Mae Taith Pyllau Glo Cymru, sydd wedi ennill gwobrau, yn adrodd y stori honno ac yn dod â'n treftadaeth yn fyw.

Dynion a weithiodd yn y pyllau glo'n ddynion ifainc yw'ch tywyswyr, gan fynd â chi dan ddaear ac yn ôl mewn amser wrth iddyn nhw rannu eu profiadau ac atgofion. Ewch ar DRAM! a gweld sut roedd plant a'u teuluoedd yn byw yn y gorffennol. Cewch fwynhau'r arddangosfeydd, y cyfleusterau rhyngweithiol a'r cwrt diwydiannol.

Mae Caffè Bracchi ar y safle yn gweini te, cacennau, byrbrydau a the prynhawn.

 

Parc Gwledig Cwm Dar, Aberdar

dvcpfamilyNOV

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn enfawr ac yn gartref i Barc Beiciau Disgyrchiant newydd ar gyfer Teuluoedd.

Dewch â'ch beiciau eich hunain neu logwch feiciau ar y safle. Ewch i gopa'r llwybrau neu ddefnyddio'r cyfleuster gludo beicwyr. Beiciwch yn gyflym i lawr y bryn, gan roi cynnig ar lwybrau gwahanol ar hyd y ffordd.

Mae man chwarae antur enfawr, yn ogystal â man chwarae llai i'r plantos bach y tu allan i Black Rock Café (sy’n gwerthu coffi bendigedig).

Mwynhewch y llwybrau cerdded – mae llwybrau i gopa mynyddoedd a theithiau sy'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a phramiau. Casglwch fap o'r dderbynfa.

 

Croeso i'r Awyr Iach

Rydyn ni wedi dod i'r arfer â gwisgo dillad cynnes, sy’n dal dŵr yma yn Rhondda Cynon Taf. Wedi dweud hynny, mae'r tywydd wedi cyfrannu at greu ein golygfeydd gwyrdd, gwych.

Pan fydd yr haul yn gwenu, dyma ein dewis ni o fannau awyr agored i chi.

Dim ond dau fynydd pen bwrdd sydd yn Ewrop, ac mae Pen-pych yn un ohonyn nhw. Crwydrwch drwy'r goedwigaeth a heibio rhaeadrau. Teimlwch fel cawr wrth edrych ar un o olygfeydd gorau Cymru. Dyma'r llwybr:

penpychfamilyNOV

 

 Gyda dau lyn (tri os ydych chi'n cyfrif y llyn cudd), bywyd gwyllt a llawer i ddiddanu pobl sy'n hoff o fyd natur, mae'n anodd credu mai pwll glo oedd Parc Gwledig Cwm Clydach. Mae'r caffi wrth ochr y llyn yn lleoliad perffaith i ymlacio a chadw llygad allan am grëyr glas neu las y dorlan.

clydachfamilyNOV

 

 

Mae coedwig Llanwynno'n llawn chwedlau - dyma hen fan hyfforddi Guto Nyth Brân wedi’r cwbl. Fe oedd dyn cyflymaf y byd ar un adeg, ac ysbrydoliaeth Rasys Ffordd Nos Galan. Dyma leoliad gwych i fynd ar antur, gyda chronfa ddŵr, coedwig a rhaeadr Pistell Golau. Ewch i Westy Brynffynon am ddiod oer ar ôl mynd am dro

llanwonnofamilynov

 

Mae gan Fynydd Rhigos lawer o feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ddechreubwynt i lwybrau cerdded di-ri lle mae modd gweld coedwigoedd a llynnoedd. 

rhigosfamilyNOV

Mae Taith Gylchol Pontypridd yn ffordd wych o weld y dref. Ewch i weld y Maen Chwyf, sef man ymgynnull ar gyfer beirdd a phobl ecsentrig. Ewch ati i geisio eu symud! 

pontycircularfamilyNOV

Gofyn am e-lyfryn