Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Dewch â'ch teulu ynghyd a mynd ar antur

 

Posted: 30/11/2021

Dewch â'ch teulu ynghyd a mynd ar antur

Dewch â'ch teulu a ffrindiau ynghyd a mynd ar antur yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Rydyn ni'n gartref i rai o'r profiadau mwyaf anhygoel yn Ne Cymru. Cewch chi hedfan oddi ar gopa mynydd, mynd am dro i weld golygfeydd gwych machlud haul neu fwynhau nofio gwyllt.

Cewch chi feicio, cerdded, mynd ar gefn ceffyl neu redeg drwy dirwedd dramatig gyda rhai o'r golygfeydd gorau.

Mwynhewch fwyd a diod anhygoel, ymlacio yn sbas moethus, gwireddu'ch ysfa i deithio, a chael hwyl gyda'ch teulu neu ffrindiau.

Ewch amdani!

Zip World Tower, Rhigos

Dyma'r profiad adrenalin diweddaraf o'r cwmni byd-enwog o Gymru. Does dim atyniad tebyg yng Nghanolbarth Cymru nac yn Ne Cymru. Phoenix yw'r wifren wib gyflymaf o'i math yn y byd. Dyma gyfle i chi hedfan oddi ar gopa Mynydd Rhigos, dros y goedwig a chronfa ddŵr Llyn Fawr.

zipworldadventure

 

Ble i aros

Mae Bird's Farm yn cynnig ystod o lety hunanddarpar gyda thwbâu twym, gan gynnwys y ffermdy, y stablau, Tŷ'r Adar a faniau ceffylau Hetti a Harri sy'n cynnig cyfleusterau glampio cyfforddus.

 

birdsfarmnov

Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Dyma leoliad anhygoel os oes gyda chi garafán, cerbyd gwersylla neu gerbyd modur. Mae Parc Gwledig Cwm Dâr yn safle achrededig Awyr Dywyll Cymru, sy'n golygu ei fod yn cynnig amodau perffaith yn ystod y nos ar gyfer syllu ar y sêr. Gosodwch y crogwely neu glustogau ar y llawr ac ymlaciwch o dan y sêr a'r cytserau.

Mae dros 200 o erwau i'w harchwilio ym Mharc Gwledig Cwm Dâr. Dewch â'ch beic mynydd eich hun neu logi un i fynd ar lwybrau llawn cyffro Parc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd.

Crwydrwch y mynyddoedd rhewlifol sy'n amgylchynu'r parc i weld rhai o'r golygfeydd gorau – yn enwedig wrth i'r haul fachlud.

Dewch i wledda yn Black Rock Café, ar y safle. Mae prydau'n cael eu gwneud ar y safle gyda chynnyrch ffres, lleol.

dvcpadventurenov

 

Ble i aros

Ym Mharc Gwledig Cwm Dâr! Fel arall, mae croeso i chi ddod â'ch carafán, cartref modur neu gerbyd gwersylla (dim pebyll) ac aros ar y safle gyda chyflenwad trydan a chyfleusterau golchi llestri a chawodydd modern ar gael. Mae Black Rock Café yn lleoliad perffaith i fwynhau brecinio.

staydvcpadventurenov

 

 Pen-pych

Does dim geiriau i ddisgrifio’r olygfa – dim ond dau fynydd pen bwrdd sydd yn Ewrop a dyma un ohonyn nhw! Mae'r golygfeydd o gopa'r mynydd yn anhygoel, a hynny yn ystod y dydd, gyda'r nos, ac wrth i'r haul godi neu fachlud.

penypchnov

 

Ble i aros

Mae Gwesty'r Dunraven  wedi'i leoli dan gysgod mynydd Pen-pych ac mae'n lleoliad perffaith i ddechrau antur. Mae bwyd a diod gwych ar gael, gan gynnwys pizza wedi'i goginio mewn ffwrn goed, ac mae'n gwahodd cwmnïau eraill i gymryd rhan yn ei achlysuron bwyd stryd, gyda nifer o themâu gwahanol, gan gynnwys bwydydd y Caribî.

dunravennov

 

 Beicio Mynydd

Mae gormod o lwybrau beicio ar ein mynyddoedd i'w rhestru! Peth call fyddai mynd ar eich beic a'u crwydro nhw! Cadwch lygad allan am feysydd parcio Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ddechreubwynt llwybrau i'r goedwigaeth ac i'r mynyddoedd. Mae'r briffordd dros y Bwlch yn un o rannau anoddach y ras Dragon Ride trwy Dde Cymru.

mountainbikenov

 

Ble i aros

Mae gan Eglwys Sant Alban yn Nhreherbert, sy'n hen gapel hyfryd, ddigon o le i 10 person aros, yn ogystal â chyfleusterau storio beiciau.

st albanchurchnov

 

Cronfa Ddŵr Maerdy

Mae'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol a hen Ffordd Coed Morgannwg yn mynd trwy'r safle hanesyddol yma. Mae modd i chi weld adfeilion Castell Nos o hyd. Credir i'r castell gael ei adeiladu gan Arglwyddi Cymreig Meisgyn, disgynyddion Iestyn ap Gwrgant, Brenin Cymreig olaf Morgannwg.

maerdynov

 

Ble i aros

Mae Bethel Nook yn ardal Rhigos yn rhandy hyfryd gyda mesanîn sy'n berffaith i'r rheiny sy'n chwilio am rywle i ymlacio ar ddiwedd diwrnod prysur.

bethelnov

 

 Llanwonno

Mae coedwigaeth Llanwynno yn llawn chwedlau. Cerddwch neu feicio trwy'r goedwigaeth i gyrraedd cronfa ddŵr Clydach a rhaeadrau Pistell Golau. Mae tafarn y Brynfrynnon yn lle gwych i gymryd saib – cewch chi fwynhau golygfeydd gwych o'r dafarn hefyd.

llanwonnonov

 

Ble i aros

Mae Bythynnod Tunnel yn Aberdâr yn cynnig ystod o fythynnod a stiwdios ac maen nhw dan gysgod Bannau Brycheiniog.

tunnelnov

 

Bwlch

Mae'r mynydd yma'n llawn llwybrau cerdded – rhagor yma.

Mae hefyd yn fan gwych i fwynhau paned a hufen iâ.

bwlchnov

 

Ble i aros

Mae Bwthyn Glowyr Blaen-cwm yn boblogaidd iawn, gan gynnig llety clyd yn nhref hardd a chyfeillgar Blaen-cwm, ger Treorci.

blaencwm cottagenov

 

Canolfan Gweithgareddau a Beicio Cwad Cwm Taf

Mae tîm anhygoel y Ganolfan yma, sydd wedi'i leoli mewn ffermdy yng nghanol bryniau Cwm Taf, yn cynnig antur i chi.  Mae'n addas i grwpiau o bob maint ac mae llwybrau beicio cwad, cyfleusterau dringo, llwybrau cerdded bryniau, gweithgareddau cerdded ceunentydd, saethyddiaeth a llawer yn rhagor ar gael. Bydd y tîm yn trefnu llety hefyd i chi os bydd eisiau.

taff valleynov

 

Ble i aros

Mae lle i bedwar person aros ym Mwthyn Fferm Lan yng Ngraig-wen, Pontypridd. Edrychwch ar y golygfeydd hyfryd!

 

 lan farm cottagenov

Gofyn am e-lyfryn

Diolch:

Carly Davies

Martin Agg

Delme Thompson

Lee Williams

Heritage Hiker

Smile with Kyle

Scenic Footprints

Matthew Carpenter

For letting us use their stunning pictures.