Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Ddiwrnod Cenedlaethol Hufen

 

Posted: 15/07/2022

Ddiwrnod Cenedlaethol Hufen

Mae’n Ddiwrnod Cenedlaethol Hufen Iâ heddiw – am esgus gwych i fwynhau dantaith oer a melys (nid bod wir angen esgus).

Dyma'r 'sgŵp' ar y llefydd gorau i fwynhau hufen iâ yn Rhondda Cynon Taf.

Cafodd siopau hufen iâ a choffi – o'r enw Bracchis – eu hagor ledled Rhondda Cynon Taf gan Eidalwyr a ddaeth i fyw yma yn ystod cyfnod o ffyniant glofaol. Mae rhai ohonyn nhw ar agor hyd heddiw, gan gynnwys Servini's yn Aberdâr a Conti's yn Nhonypandy (sydd dal i werthu hufen iâ).

Mae Rhondda Cynon Taf yn gartref i'r enwog Sub Zero, sydd bellach ar werth mewn cyrchfannau ledled Cymru. Agorodd y cwmni ei siop gyntaf ym Mhenrhiw-fer, ac mae dewis o dros 60 o flasau. Wedi i chi benderfynu pa flas(au) rydych chi eisiau, mae’n bryd dewis os ydych chi eisiau'ch hufen iâ mewn côn, twb, crempog neu ar waffl poeth – a dewis saws!

subzero 

Hufen iâ â golygfa. Does dim ots pa flas fydd ar yr hufen iâ, bydd e bob tro'n blasu'n well gyda golygfa fel hyn – golygfan mynydd y Rhigos yw un o’r mannau gorau i ymlacio.

Rhigos---Aerial-4 

Hufen iâ a mwy! Mae Shake, Waffle N Cone wedi'i leoli ar Stryd y Farchnad yn Aberdâr, ac mae'n gwerthu hufen iâ, waffls, treiffls, slwtsh, cacennau a phethau eraill. Lle perffaith i ddod am ddantaith melys dros yr haf. Ewch â'ch bwyd mas a’i fwynhau ar dir prydferth Parc Aberdâr, sydd â maes chwarae antur, pad sblasio, llyn cychod a mwy.

shakewaffleandcone

Mwynhewch 'gelato' cartref, hufen iâ, 'sundaes', cacennau a choctels slwtsh yn Scoops and Smiles yn Nglynrhedynog, sydd â seddau dan do ac awyr agored, gan gynnwys gerddi yn y blaen a'r cefn. Bendigedig.

scoops and smiles

Wyt ti m-'oen' rhannu hwnna?! Mae cilfan ar ben Mynydd y Bwlch – lle mae bwrdeistrefi sirol Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot yn cwrdd – yn le annisgwyl i fod yn gyrchfan i ymwelwyr, ond mae pobl wrth eu bodd. Mae modd i chi weld am filtiroedd o'r olygfan, sydd â'i fan hufen iâ ei hun. Cymerwch ofal rhag y defaid lleol – dydyn nhw ddim yn swil!

From the Bwlch

Enillodd Treorci wobr Stryd Fawr Annibynnol Orau y DU, a does dim rhyfedd pam. Mae cymysgedd gwych o siopau ganddi, a lleoedd i fwyta ac yfed. Er enghraifft, siop hufen iâ 10 Below, y lle perffaith i ymlacio ar ôl prynhawn o siopa!

10 below

Kirsty's Kandy yn y Porth yw'r lle i gael hambyrddau hufen iâ anferth, gyda blasau blasus megis Mega Meringue, Cookie Crunch a Fizzy Whizzy. Maen nhw hefyd yn gwerthu amrywiaeth o flasau Sub Zero. Yn ogystal, dyma'r lle i gael peth o'ch hoff losin retro neu Americanaidd tra byddwch chi yno. Beth am i chi fynd â'ch archeb tu fas a’i fwynhau ar dir hardd Parc Bronwydd?

kirsty

Traddodiad Cwm Rhondda yw ymweliad â Mr Creemy, ac mae eu siop nhw ym Mhen-y-graig yn llawn blasau gwahanol o hufen iâ, yn ogystal â phwdinau hufen iâ, waffls, conau a mwy. Maen nhw hefyd yn gwerthu sorbedau braf – bendith ar ddiwrnod poeth. Pam na ewch chi â'ch Mr Creemy draw i Barc Pen-y-graig a'i fwynhau yn yr awyr agored mewn lle hardd?

mrcreemy

Peidiwch ag anghofio am y cŵn! Mae Parc Gwledig Cwm Dâr a Pharc Gwledig Barry Sidings yn croesawu cŵn ac mae hufen iâ Mario’s Utterly Mutterly ar werth – felly gall eich cyfeillion â phedair coes ymuno â’r dathliadau.

utterlymutterlybarry