Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Crwydro Rhondda Cynon Taf, De Cymru

 

Posted: 21/06/2022

Crwydro Rhondda Cynon Taf, De Cymru

Dewch i ddarganfod rhywbeth gwahanol yn Rhondda Cynon Taf, De Cymru.

Rydyn ni wedi’n lleoli yng nghanol Cymoedd De Cymru, rhwng Caerdydd a'r Bannau Brycheiniog, ac yn cael ein hystyried yn dipyn o drysor cudd – ond fydd hynna ddim yn para'n hir!

Mae gyda ni bopeth sydd ei angen arnoch chi i gael seibiant perffaith – newid golygfa, lleoedd gwych i fwyta, yfed ac aros ac, wrth gwrs, digonedd i'w archwilio a'i brofi.

Dyma rai o'r ffyrdd gorau o dreulio'ch amser gyda ni.

Gwnewch gais am elyfryn

Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, Pontypridd

lidoview

Does dim atyniad arall fel hwn yn unman arall yng Nghymru. Dewch i ymdrochi ym mhyllau awyr agored cynnes Lido Ponty. Cewch fwynhau sesiwn nofio braf ben bore neu ymdrochi'n hamddenol mewn sesiwn prynhawn.

Ymlaciwch wrth y cadeiriau hamddena wrth ymyl y pwll neu mwynhewch goffi barista o Gaffi Lido ar y teras.

Dysgwch ragor a phrynwch eich tocynnau ar gyfer Lido Ponty yma.

Gwnewch gais am elyfryn

lido explorer

Taith Pyllau Glo Cymru ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod

Rhondda-Heritage-Park---Aerial-2

Bydd dynion oedd arfer gweithio ym mhyllau glo peryglus Rhondda Cynon Taf yn eich tywys ar gyfer y profiad arobryn yma.

Byddan nhw'n rhannu eu straeon personol a’u hatgofion gyda chi wrth iddyn nhw fynd â chi yn ôl mewn amser i ddysgu am waith yr hen bwll glo ar Daith yr Aur Du. Gwisgwch eich helmed glöwr a dewch i ddysgu sut y bu glo o Gwm Rhondda yn helpu i bweru'r byd.

Mae Taith Pyllau Glo Cymru ar hen safle Glofa Lewis Merthyr. Mae nifer o nodweddion gwreiddiol y pwll glo ar y safle o hyd i chi eu harchwilio yn y cwrt a’r arddangosfeydd.

Treuliwch amser ar ôl eich taith yn mwynhau paned a thafell o deisen neu fyrbryd yng Nghaffi Bracchi ar y safle. Cafodd y caffi ei ysbrydoli gan y siopau coffi a'r parlyrau hufen iâ niferus a gafodd eu hagor yn yr ardal yma - ac sy'n parhau i fasnachu hyd heddiw - gan Eidalwyr a heidiodd i Gwm Rhondda yn ystod ei anterth diwydiannol.

Dewch i ddysgu rhagor a phrynwch eich tocynnau ar-lein

Gwnewch gais am elyfryn

wmeexplorer

Profiad y Bathdy Brenhinol, Llantrisant

The-Royal-Mint-Experience-34

Ewch y tu ôl i'r llenni yn y sefydliad hynod ddiddorol yma, a symudodd i Gymru o Dŵr Llundain hanner canrif yn ôl.

Mae dros 1,000 o flynyddoedd o hanes, dirgelwch a thrysorau yn dod yn fyw ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol. Dysgwch am arwyddocâd y darnau arian yn eich poced a sut mae arian cyfred a ddefnyddir ledled y byd yn cael eu creu yma yng Nghymru. Dysgwch sut maen nhw'n creu'r medalau Olympaidd a Pharalympaidd gwerthfawr a tharwch eich darn arian eich hun.

Mae'r siop anrhegion yn berffaith i'r rhai sy'n chwilio am ddarn arian i gwblhau eu casgliad.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a phrynwch eich tocynnau ar-lein.

Gwnewch gais am elyfryn

mintexplorer

 Distyllfa Wisgi Penderyn, Penderyn

Penderyn Distillery - Whiskey - Bar - Shop - Gin - July 2021-59

Maen nhw'n dweud ei bod hi'n bwrw glaw yn aml yng Nghymru. Wel, mae’r dŵr pur hwnnw’n llifo o’n mynyddoedd ac yn cael ei ddefnyddio yn Nistyllfa Wisgi Penderyn i greu un o gyfuniadau mwyaf nodedig y byd.

Dyma un o'r atyniadau mwyaf poblogaidd yn Rhondda Cynon Taf ac mae'n cynnig taith unigryw, tu ôl i'r llenni i chi i weld sut mae'r gornel fechan yma o Gymru yn ennill enw da ar draws y byd.

Wrth gwrs, mae cyfle i flasu’r wisgi blasus, yn ogystal â gwirodydd a chyfuniadau eraill a gaiff eu creu ym Mhenderyn, fel fodca a gwirod hufen.

Mae cyfle i flasu’r wisgi, a gwirodydd eraill a chaiff eu creu yn y ddistyllfa, gan gynnwys Brecon Gin. Cewch brynu anrheg arbennig – neu rywbeth i chi’ch hun – yn y siop anrhegion.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a phrynwch eich tocynnau ar-lein.

Gwnewch gais am elyfryn

penderynexplorer

 Parc Gwledig Cwm Dâr, Aberdâr

Lakes - Views - Camping - Walks - Birds - Flowers - DVCP-6

Faint o amser sydd gyda chi? Mae 200 erw o gefn gwlad agored syfrdanol yma i chi ei archwilio.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr wedi cael ei adfer yn llwyr o dir diwydiannol gan fyd natur ac mae'n llawn teithiau cerdded a llwybrau. Bwriwch olwg ar y llwybrau yma

O deithiau cerdded hamddenol lle cewch fwynhau'r golygfeydd a’r synau, i deithiau ar ben y mynydd, mae rhywbeth at ddant pawb. Dewch â’ch beic i grwydro – cewch hyd yn oed roi cynnig ar y llwybrau ym Mharc Beiciau Disgyrchiant ar gyfer Teuluoedd ar y safle.

Mae Caffi'r Black Rock ar agor ac yn cynnig popeth o baned a chacen i bryd o fwyd gyda gwin.

Mae Parc Gwledig Cwm Dâr hefyd yn gartref i faes carafanau, cartrefi modur a cherbydau gwersylla gyda chysylltiadau trydan. Mae'n safle achrededig Awyr Dywyll, sy'n golygu y byddwch chi'n cysgu o dan awyr y nos cwbl glir sy'n berffaith ar gyfer syllu ar y sêr.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle ar-lein.

Gwnewch gais am elyfryn

 

dvcp explorer

Ymlacio, mwynhau maldod a bwyta mewn steil

LH_17

Mae gan Rondda Cynon Taf ddau westy moethus, anhygoel sy'n cynnwys triniaethau sba a phyllau.

Mae'r ddau hefyd yn gyn-gartrefi gwledig wedi'u haddasu'n foethus, ac yn sefyll mewn tiroedd moethus sy'n berffaith i ddianc am seibiant.

Mae Gwesty a Sba Lanelay Hall, Llantrisant, ar gyrion coedwigaeth syfrdanol. Mae pob un o'i ystafelloedd wedi'u dylunio'n unigol ac mae ganddo dair ardal fwyta sy'n cynnig amrywiaeth o ginio ffurfiol ac anffurfiol. Tribe spa yw'r lle perffaith i ymlacio - gydag elfennau dan do ac awyr agored, mae'n le ysblennydd. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle.

Mae Gwesty a Chlwb Iechyd Miskin Manor yr un mor brydferth, wedi'i leoli mewn 25 erw gydag ystafelloedd mawr yn edrych allan ar y tiroedd. Mae hefyd yn cynnig amrywiaeth o opsiynau bwyta gan gynnwys te prynhawn anhygoel.

Cewch fwynhau maldod o'ch corun i'ch sawdl yn y clwb iechyd - mae tylino cerrig poeth, tylino pen Indiaidd, triniaethau wyneb, triniaethau dwylo a thraed a rhagor ar gael. 

Gwnewch gais am elyfryn

luxuryexplorers

Crochendy Nantgarw, Nantgarw

Pottery - Ovens - Gardens - China - Tea Room -10

Cafodd llestri a gafodd eu hystyried ymhlith y goreuon yn y byd eu gwneud yma dros 200 o flynyddoedd yn ôl. Byddai'r llestri yma'n addurno byrddau boneddigion a boneddigesau o Rwsia.

Nantgarw yw unig grochendy'r 19eg Ganrif yn y DU. Mae darnau o waith i'w gweld ar raglen deledu Antiques Roadshow yn rheolaidd. Mae pobl yn eu hedmygu am eu meinder ac arwyddocâd hanesyddol. Mae cefnogwr Antiques Roadshow, Henry Sandon, yn ymddiriedolwr.

Yn ogystal â dathlu a gwarchod ei hanes, mae Nantgarw yn symud ymlaen gydag artistiaid preswyl a sesiynau celf a chrefft rheolaidd.  Mae darnau bach o'r crochenwaith gwreiddiol wedi'u defnyddio i greu gemwaith y mae modd ei brynu. Mae ystafell de hyfryd ar y safle.

 Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a chadw lle ar-lein.

Gwnewch gais am elyfryn

nantgarwtraditional

 

Newid golygfa

Mae llawer o olygfeydd godidog yn Rhondda Cynon Taf ac mae digonedd o wahanol lwybrau y gallwch eu defnyddio i'w harchwilio.

Mae modd gweld y rhestr lawn o deithiau cerdded, gan gynnwys y rhai isod, ynghyd â mapiau llwybrau a chanllawiau fideo, yma

Rydyn ni'n argymell:

Cronfa Ddŵr Maerdy, man tawel llawn hanes gan mai dyma safle hen Gastell Nos

Parc Cefn Gwlad Cwm Clydach, gyda dau lyn i’w darganfod yn ogystal â digonedd o fywyd gwyllt

Mae Coedwig Llanwynno yn llawn hanes ac mae modd i chi weld rhaeadr gudd a chronfa ddŵr.

Mae Coedwig Llantrisant, a gaiff ei galw'n ‘Coedwig Smilog’ yn lleol, fel mynd i fyd gwahanol wrth i'r heulwen arllwys trwy ganopi'r coed.

Gwnewch gais am elyfryn

scenery explorer

 

Llantrisant hanesyddol

Yn uchel ar gopa'r bryn yn Ne Rhondda Cynon Taf mae tref fechan Llantrisant. Mae ei strydoedd coblog hynafol yn llawn chwedlau.

Ewch i weld lawnt y castell, adfeilion y castell a neuadd y dref, lle cewch ddarganfod hanesion gwefreiddiol am frenhinoedd wedi'u dal, rhyfelwyr di-ofn a chymeriadau ecsentrig.

Ewch i grwydro'r comin a'r byd natur o'ch cwmpas gyda'r Teithiau Cerdded Cwningen neu lawrlwythwch y llwybr llafar i fynd ar daith trwy'r dref ac yn ôl mewn amser.

Mae hen gylch y teirw – ie wir, cafodd ei ddefnyddio ar gyfer brwydrau teirw nes iddyn nhw gael eu stopio gan fod y gwylwyr yn cynhyrfu gormod – bellach yn fan canolog hyfryd gyda siopau annibynnol a llefydd i fwyta o'i gwmpas.

Dysgwch ragor am Lantrisant

Gwnewch gais am elyfryn

llantfamily

Aros

Rydyn ni eisoes wedi sôn am rai llefydd gwych i aros, ond mae llawer mwy. Os ydych chi eisiau lle eich hun, beth am roi cynnig ar Dŷ Ffarm yng Ngellilwch, sydd wedi’i leoli yng nghefn gwlad gwasgarog dyffryn Taf neu Fwthyn clyd Blaen-cwm ym mhen uchaf Cwm Rhondda. Mae Neuadd Llechwen yn brydferth ac mae ganddi fwydlen wych, tra bod gwesty’r Heritage Park mewn lleoliad perffaith ar gyfer crwydro. 

Bwriwch olwg ar y rhestr lawn o lefydd i aros

Gwnewch gais am elyfryn

 

stayexplorer

Bwyta

Bwyd o le yn y byd yr hoffech chi fwyta? Mae gan Rondda Cynon Taf bopeth o fwyd stryd fel bwyd arobryn yn Janet’s Authentic Northern Chinese Cuisine a bwyd llysieuol a fegan blasus yn The Veggie Hut ym Mhontypridd i giniawa cain mewn gwestai moethus.

Mae'r Cardiff Arms Bistro yn cynnig dewis gwych o brydau traddodiadol, pizza o ffwrn goed a thapas, ac mae Alfred's yn lle gwych ym Mhontypridd, gyda llefydd i fynd am ddiod ar ôl i chi fwyta. Os ydych chi allan yn ystod y dydd, does dim gwell na Chaffi'r Bike Doctor ym Mharc Gwledig Barry Sidings am fyrgyrs a sglodion â thopins.

I gael pryd o fwyd gyda golygfa, ewch i Penaluna’s Famous Fish and Chips a bachwch decawê i'w fwynhau ar ben mynydd y Rhigos.

Bwriwch olwg ar y rhestr lawn o lefydd bwyta

Gwnewch gais am elyfryn

eatexplorer