Cymorth i Fusnesau Twristiaeth Croeso Rhondda Cynon Taf
Wrth i gyfyngiadau ledled Cymru gael eu llacio, mae carfan twristiaeth Croeso Rhondda Cynon Taf ar gael o hyd i helpu busnesau wrth iddyn nhw ailagor a dechrau adfer.
Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn heriol i'n busnesau twristiaeth ac rydyn ni'n falch o weld llety, bwytai ac atyniadau yn dechrau ailagor, a dangos ymrwymiad sylweddol i ddiogelwch y cwsmer, staff a'r gymuned wrth wneud hynny.
Mae yna lawer o wybodaeth ac arweiniad ar-lein i gefnogi busnesau ac mae carfan Croeso Rhondda Cynon Taf yn falch o allu tynnu'r darnau allweddol ynghyd i gynorthwyo:
Canllaw Adfer Busnes Twristiaeth
Mae'r canllaw wedi'i greu gan garfan Croeso Rhondda Cynon Taf ac mae'n cynnig canllaw gam-wrth-gam i fusnesau sy'n ymwneud â thwristiaeth.
Y bwriad yw ei gyflwyno ochr yn ochr (ac yn unol â) chanllawiau a mesurau cyfredol gan Lywodraeth Cymru ac mae'n cynnwys gwybodaeth am asesiadau risg, parhad busnes, opsiynau ariannol, gwerthusiad a rhagor.
Mae modd i chi lawrlwytho y canllaw ar ffurf PDFi'w gadw wrth law neu darllenwch y fersiwn llawn ar-lein
Cynllun Barod Amdani
Mae Barod Amdani yn achrediad a safon sydd ar waith ledled y DU, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a mudiadau twristiaeth cenedlaethol.
Mae'n galluogi busnesau i gwblhau asesiad ar-lein a gosod arwyddion a "marc siarter" i'w arddangos yn eu busnes, i ddangos eu bod wedi ymrwymo i - ac yn dilyn - canllawiau cenedlaethol ynghylch diogelwch cwsmeriaid, staff a'r gymuned.
Mae modd i chi gyrraedd safon Barod Amdani yma.
Mae rhagor o wybodaeth am gwblhau'r asesiadau risg a'r gofynion glanhau yma
Addo/Darganfod Cymru. Yn ddiogel.
Mae "Addo" yn addewid, i Ddarganfod Cymru mewn ffordd ddiogel a gwneud pob dim o fewn ein gallu i ofalu am ein mannau agored, ein copaon mynyddoedd a'n harfordiroedd prydferth. Mae hefyd yn addewid i ofalu am ein gilydd.
Yn rhan o'r ymgyrch, mae Darganfod Cymru wedi llunio canllawiau, posteri, templedi dogfennau a gwybodaeth am Olrhain a Chysylltu at eich defnydd chi.
Dysgu rhagor a'u lawrlwytho yma
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru wedi cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol ar restrau gwirio i'w cwblhau cyn ailagor, dolenni at gyngor pellach, cyllid, cymorth a rhagor.
Rhagor o wybodaeth yma: