Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Tŷ-Andrew, Aberdâr

 

33 Seymour Street, Aberdare CF44 7BL

Tŷ-Andrew yw'r tŷ llety hynaf yn Aberdâr. Mae'n darparu llety o safon ers dros 30 o flynyddoedd ac mae e mewn lleoliad cyfleus; dim ond 5 munud o gerdded sydd i gyrraedd yr orsaf bysiau a threnau ganolog.

Gall Tŷ-Andrew ymfalchïo mewn ystafelloedd en-suite helaeth sydd â theledu a chyfleusterau paratoi grawnfwyd a the/coffi am ddim yn ogystal â chysylltiad Gwe Di-wifr am ddim. Mae croeso i westeion ymlacio yn ein lolfa eang. Gallwn ni hefyd gynnig lleoedd parcio ar y stryd (nid rhai wedi eu cadw) er hwylustod i chi.

Mae Tŷ-Andrew mewn lle delfrydol ar gyfer twristiaid, cerddwyr a phobl sy'n gweithio neu ar fusnes yn yr ardal.

Pris enghreifftiol: £20 y pen fesul noson