Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

La Cala

 

Pontpren, Penderyn 

Bwthyn mawr sengl ar wahan yw La Cala, ym mhentref Penderyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae gan y bwthyn ddwy ystafell wely ddwbl (un ag en-suite), un ystafell sengl gyda gwely stacio tynnu allan a dau wely sengl. Ceir ystafell ymolchi deuluol yn ychwanegol, sy'n gwneud hyn yn addas at hyd at 10 o bobl. Yn ogystal â hyn, mae'r bwthyn yn cynnwys ardal fyw gynllun agored gyda chegin osod, ardal fwyta ac ardal eistedd, ac ail ystafell eistedd hefyd. Tu allan i'r bwthyn ceir lleoedd parcio oddi ar y ffordd i dri char, a gardd gyda lawnt sydd á phatio a dodrefn awyr agored. Saif La Cala mewn lleoliad anhygoel yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma le perffaith i gerddwyr, teuluoedd, a grwpiau o gyfeillion.

Cyfleusterau:
*Gwres canolog nwy (dan y llawr ar y llawr gwaelod)
*Popty gyda phedair fwrn drydan a chwech hob nwy, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi, peiriant golchi llestri, dau deledu gyda Freeview, peiriant DVDau, system gerddoriaeth, technoleg WiFi, a detholiad o lyfrau, gemau, a DVDau.
*Dillad gwely a thyweli wedi'u cynnwys yn y rhent
*Lleoedd parcio oddi ar y ffordd i dri char.
*Gardd gyda lawnt a phatio gyda dec a dodrefn gardd. Nodwch: Rhaid goruchwylio plant yn yr ardd oherwydd y nant agored yno.
*Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.

Dim anifeiliaid anwes a dim ysmygu.
Taith gerdded milltir a hanner i'r siop, pum munud i'r dafarn.
Noder: Mae'n bosibl y gallech glywed sŵn traffig o dro i dro, gan fod yr eiddo tua 50 llath o ffordd Ddosbarth A.

WiFi-Zone-Logo