Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Sunnyside Lodge Self Catering

 

Sunnyside Lodge, Cwmbach, Aberdâr

Bwthyn hyfryd a saif ym mhentref Cwm-bach, tua dwy filltir o Aberdâr yng Nghymoedd y De. Mae lle i ddau gysgu yn y bwthyn, mewn un ystafell wely ddwbl gydag ystafell ymolchi en-suite. Yn ogystal â hyn i gyd, mae yn y bwthyn gegin ac ystafell eistedd, gydag ardal fwyta a gwresogydd llosgi coed - y lle perffaith i'n hymwelwyr gwtsho yn glyd! Tu allan i'r bwthyn ceir lleoedd parcio oddi ar y ffordd i ddau gar, a gardd patio breifat gyda dodrefn a thwb poeth. O fwthyn hyfryd Sunnyside Lodge bydd modd i chi fentro allan i grwydro'r rhan ryfeddol o hardd yma o'r wlad.

Cyfleusterau:
*Gwres canolog olew gyda gwresogydd llosgi coed.
*Ffwrn a hob drydan, meicrodon, oergell/rhewgell, peiriant golchi, teledu gyda Freeview, peiriant DVDau, technoleg WiFi.
*Darperir pecyn dechrau i'r stof.
*Darperir dillad gwely a thyweli.
*Crud teithio a chadair uchel ar gael ar gais.
*Digonedd o leoedd parcio oddi ar y ffordd.
*Storfa beiciau ar gael ar gais.
*Gardd patio breifat gyda dodrefn a thwb poeth.
*Croeso i ddau gi sy'n ymddwyn yn dda.
Dim ysmygu.
Taith gerdded 10 munud i'r siop a'r dafarn.

WiFi-Zone-Logo