Skip to main content
Visit Rhondda Cynon Taf, South Wales - Croeso

Tŷ Fictoraidd, Graigwen

 
Graigwen, Pontypridd

Dyma gartref o'r oes Fictoria sydd â nodweddion pensaernïol hyfryd wedi'i lloli mewn cul-de-sac yn ardal gadwraeth Graigwen. Mae'r tŷ yn agos i orsaf drenau Pontypridd ac yn cynnig parcio oddi ar y stryd. 

Mae'r tŷ yn cynnwys dodrefn hynafol, seddi cyfforddus, lleiniau o'r ansawdd gorau a gerddi hardd tu blaen a thu chefn y tŷ ac ardal eistedd awyr agored.

Mae'r tŷ ar dri llawr. Ar y llawr gwaelod mae yna gyntedd, neuadd, ystafell fyw, ystafell fwyta, ystafell frecwast, golchdy, tŷ bach a chegin. 

Ar y llawr cyntaf mae yna tair ystafell wely sydd â gwely mawr a dwy ystafell ymolchi. 

Ar yr ail lawr mae yna dwy ystafell wely arall, un ystafell fawr iawn sydd â gwely 'super king' ac ystafell lai sydd â gwely tri chwarter. 

Mae lle ar gyfer 9 person yn y tŷ yma, ond mae modd codi gwely dros dro yn un o'r prif ystafelloedd fel bod lle ar gyfer 10 person.