Does dim tocynnau ar ôl ar gyfer yr achlysur yn y Planetariwm.
Ymunwch â ni yn ystod gwyliau'r Pasg, ddydd Iau 4 Ebrill, am brynhawn o sioeau yn y planetariwm fydd yn cael eu cynnal gan Awyr Dywyll Cymru.
Dewch i fwynhau profiad mytholegol yn y planetariwm digidol o'r radd flaenaf. Dysgwch am y cosmos modern, llên gwerin Cymru, y planedau, galaethau a nifylau yn rhan o brofiad gweledol a chlywedol syfrdanol.
Dyma amseroedd y sioeau: 12pm, 1pm, 2pm a 3pm ac maen nhw'n para tua 45 munud.
Cyrhaeddwch 10 munud cyn dechrau'r sioe.
Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn.
£3 yr un.
Archebwch Yma.
Mae modd i chi gadw lle ar gyfer gweithdy Creu eich Galaeth eich hun gyda Craft of Hearts drwy ffonio 07917 467103. Pris tocyn yw £3 fesul plentyn.